Bywyd newydd i arwr rhyfel
MAE arwr yn yr Ail Ryfel Byd yn dechrau bywyd newydd, diolch i gynllun tai gwarchod blaenllaw – 75 mlynedd ar ôl iddo osgoi cael ei ladd gan y Natsïaid.
Roedd Alf Davies, 95 oed, yn brif westai yn agoriad swyddogol y datblygiad sy’n werth £4.2 miliwn, a adeiladwyd gan gymdeithas tai Cartrefi Conwy yn Llandudno.
Mae Alf yn un o denantiaid Cysgod y Gogarth ac mae ei atgofion hynod ynghylch dianc o afael angheuol yr SS wedi’u cofnodi ar gyfer yr oesoedd i ddod mewn capsiwl amser sydd wedi’i gladdu ar y safle.
Cafodd chwe thenant arall eu cyfweld hefyd, i sôn am hanes eu bywydau.
Wrth iddynt gilio tuag at Dunkirk yn wyneb ymosodiadau ffyrnig yr Almaenwyr drwy Ffrainc a Gwlad Belg yn ystod haf 1940, amgylchynwyd grŵp o filwyr Prydeinig gan yr uned chwedlonol greulon Leibstandarte Adolf Hitler.
Aethpwyd â rhai yn garcharorion ac, yn ddiweddarach, lladdwyd 80 ohonynt wrth iddynt gael eu gyrru i mewn i ysgubor.
Ond, ymysg y rheiny a lwyddodd i ddianc oedd Alf, a oedd yn aelod o’r Magnelwyr Brenhinol (Royal Artillery).
Ymhen amser, cyrhaeddodd yr arfordir a chafodd ei gludo yn ôl i Brydain, a bu fyw i ymladd ei ffordd drwy Ewrop tan ddiwedd y rhyfel yn 1945.
Bu Alf yn denant i Cartrefi Conwy e ers sawl blwyddyn, a chafodd wahoddiad i fod ar frig rhestr y gwesteion ar gyfer agor Cysgod y Gogarth yn Trinity Avenue, lle y mae ei gyd-gymdogion yn ei alw’n annwyl yn “Ambush A Alf”.
Mae Cartrefi Conwy wedi disodli d dau gynllun tai gwarchod sy’n heneiddio – Llys Seiriol, a Llys Eryl sydd gerllaw – gyda 30 o fflatiau a thai newydd o’r radd flaenaf ar gyfer pobl hŷn ar yr un safle.
Disgrifiodd Alf y lladdfa ym 1940 yn Wormhout, y dref y mae Llandudno bellach wedi gefeillio â hi: “Ar ôl i’r ymosodiad ddod i ben, cefais fy hun gyda rhai o’r dynion mewn garej a oeddo a cheir ynddo. Roedd yr Almaenwyr yn saethu atom ac roedd y bwledi’n taro’r ceir, ac roedden ni’n ceisio cadw ein pennau i lawr, “meddai.
“Llwyddais i ddianc ar ôl i un o’r dynion falu ffenestr ac roedd yn bosibl i ni ddianc drwy gefn yr adeilad.
“Dyma ni’n neidio i mewn i afon i ddianc. Dyma rhai’n troi i’r chwith, tra bu i mi a rhai o’m ffrindiau droi’r ffordd arall a rhedeg tuag at yr afon.
“Yn ddiweddarach, canfuom fod y rhai a aeth y ffordd arall wedi cael eu dal a’u rhoi yn yr ysgubor gyda nifer o’r milwyr Prydeinig eraill.
“Galwodd yr SS ar y dynion i ddod allan fesul pump ac fe wnaethon nhw eu saethu yn y fan a’r lle.”
Ychwanegodd Alf, sy’n hen daid i bedwar o blant: “Roeddwn yn byw yn Llys Eryl am 18 mlynedd ac roeddwn am symud i ystâd newydd Cysgod y Gogarth pan fyddai’n agor.
“Mae’r fflat llawr gwaelod sydd gennyf yn awr yn ddymunol iawn ac mae’r staff yn gymwynasgar iawn â mi.
“Ni ddychmygais erioed y byddwn yn byw mewn rhywle mor smart â hwn ac mae’n wych fy mod wedi cael fy ngwahodd i’r agoriad swyddogol.
“Roeddwn yn eithriadol o lwcus fy mod wedi dianc rhag yr ymosodiad hwnnw ac mae byw’n ddigon hir i allu symud i rywle neis fel hwn yn wych.”
Dewiswyd un o’i gyd-drigolion, June Ann Perry, 70 oed, i helpu i dorri’r rhuban ar gyfer y datblygiad newydd, ochr yn ochr â’r Cynghorydd Andrew Hinchcliff, pencampwr pobl hŷn Cyngor Conwy.