North Wales Weekly News

Trên cyffrous Jools yn barod i godi’r to

-

BYDD y chwedlonol bwgi wwgi Jools Holland yn dod yn ôl i Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen i ddathlu dod yn is-lywydd yr ŵyl eiconig.

Yn gyn bianydd Squeeze, arweinydd band, awdur, cyflwynydd teledu a radio, mae wrth ei fodd cael cynnig y swydd er anrhydedd yn ‘y digwyddiad gwbl ddisglair’.

Bydd Jools a’i Gerddorfa Rhythm & Blues yn cau’r llen ar yr Eisteddfod 70 oed yr haf nesaf gyda pharti codi’r to ddydd Sul, 10 Gorffennaf.

Mae’r tocynnau’n eisoes ar werth.

Mae’r cyngerdd, a fydd hefyd yn cynnwys y cantorion gwadd Ruby Turner a Louise Marshall, yn cael ei noddi gan The Village Bakery, cefnogwyr hir dymor yr ŵyl.

Meddai Robin Jones, y rheolwr cyfarwyddw­r: “Rydym wrth ein bodd yn noddi Eisteddfod Llangollen unwaith eto y flwyddyn nesaf, yn enwedig gan y bydd yr ŵyl yn 70 oed.

“Allwn ni ddim byw yn ein croen nes cael clywed Jools a’i fand yn codi’r to. Bydd yn noson wirioneddo­l wych.”

Mae’r cynlluniau ar gyfer y digwyddiad­au arbennig 2016 bron â’u gorffen. Bydd y gantores glasurol Katherine Jenkins hefyd yn y cyngerdd agoriadol ddydd Mawrth 5 Gorffennaf.

Bydd y seren boblogaidd sy’n pontio arddulliau canu yn perfformio addasiad ar gyfer cyngerdd o opera Carmen gan Georges Bizet mewn noson sy’n cael ei noddi gan y sefydliad gofal, Pendine Park.

Aeth Jools, a gafodd ei eni yn Llundain, ymlaen o chwarae mewn tafarndai yn nociau’r East End yn ei araddegau i arwain ei Gerddorfa Rhythm & Blues a gwerthu miliynau o recordiau.

Cafodd yr OBE yn 2003 am ei wasanaetha­u i’r diwydiant cerddoriae­th Prydeinig.

Addunedodd Jools ddychwelyd i Langollen ar ôl ei ymddangosi­ad cyntaf dair blynedd yn ôl.

Meddai: “Roeddwn wrth fy modd ac yn ei theimlo’n fraint pan ofynnwyd i mi fod yn is-lywydd yr ŵyl nodedig hon.

“Cawsom amser bendigedig wrth berfformio ddiwethaf yn Llangollen, sy’n dref fach dlws iawn. Roeddwn wrth fy modd gyda’r awyrgylch, y blodau, y gynulleidf­a werthfawro­gol a chyfarfod â phobl gwych. Bydd yn fraint bod yno.

“Sefydlwyd yr ŵyl er mwyn hyrwyddo heddwch a chytgord ymysg cenhedloed­d y byd ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd ac rwy’n meddwl fod hynny’n fendigedig.

“Mae safon y cerddorion a dawnswyr ifanc sy’n teithio o dros y byd i gyd i ymddangos yn Llangollen yn dystiolaet­h i’r sefydliada­u a’r gwirfoddol­wyr sy’n gwneud yr holl waith caled i roi’r ŵyl at ei gilydd.”

“Gen i mae’r swydd orau yn y byd, yn rhannol oherwydd y bobl rwy’n chwarae gyda nhw, ond hefyd oherwydd bod gan y band fywyd ei hunan. Rwy’n gallu edrych allan o’r piano a gweld cymaint y maen nhw’n mwynhau’u hunain a pha mor wych y maen nhw’n chwarae. Mae fel trên o gyffro!”

 ??  ?? Yr anhygoel Jools Holland
Yr anhygoel Jools Holland

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom