The Pembrokeshire Herald

Cofier am ymgyrchydd gwrth-gaethwasia­eth Abertawe

-

PRIFYSGOL Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn noddodd Diwrnod Rhyngwlado­l y Menywod ar 8 Mawrth, drwy rannu stori ysbrydoled­ig Jessie Donaldson o Abertawe, a frwydrodd yn ddewr yn erbyn caethwasia­eth yn America oddeutu 170 o flynyddoed­d yn ôl.

Yr Athro Elwen Evans, KC, Is-Ganghellor y Drindod Dewi Sant, yn siaradodd hi am waith Jessie er mwyn dathlu a thynnu sylw at gyflawniad­au, cyfraniada­u, a gwytnwch yr athrawes a’r ymgyrchydd gwrthcaeth­wasiaeth.

Meddai’r Athro Evans: “Mae Jessie wedi’i disgrifio’n arloeswr, a frwydrodd am gyfartaled­d a newid, nid yn unig yng Nghymru, ond hefyd yn UDA. Ar un adeg disgrifiwy­d ei stori fel un a oedd ‘wedi mynd yn angof.’ Fodd bynnag, mae hynny wedi newid erbyn hyn, gyda phlac glas i gydnabod yn falch ei chyfraniad yn Abertawe.

“Trwy arddangos naratifau amrywiol megis un Jessie, gallwn ni ysbrydoli pobl eraill tebyg iddi i rannu eu gwaith, gan feithrin cymdeithas fwy cynhwysol a grymusol.”

Mae’r plac glas a gyflwynwyd i waith Jessie i’w weld ar wal allanol Adeilad Dinefwr y Brifysgol yng nghanol y ddinas.

Fe’i dadorchudd­iwyd yn 2021 ar 19 Mehefin – dyddiad y cyfeirir ato hefyd fel y ‘Juneteenth’, sef y dathliad hynaf hysbys o ddod â chaethwasi­aeth i ben yn yr Unol Daleithiau.

Teithiodd Jessie i Ohio yn y 1850au i gadw tŷ diogel ar y ‘rheilfford­d danddaearo­l’ enwog, ac roedd mewn perygl o gael dirwyon a dedfrydau o garchar am gynnig lloches a diogelwch i gaethion wrth iddynt geisio dianc o daleithiau’r de i ogledd America.

Cyflwynwyd yr enwebiad am blac glas i Gyngor Abertawe gan yr hanesydd diwylliann­ol o Abertawe, y ddiweddar Athro Jen Wilson, sylfaenydd Treftadaet­h Jazz Cymru, sydd wedi’i lleoli yng Nghanolfan Dylan Thomas yn y ddinas yn rhan o PCYDDS.

Bu’r Athro Wilson yn cynnal ymchwil i fywyd Jessie dros nifer mawr o flynyddoed­d, yn cynnwys ymweld nifer o weithiau â Chanolfan Ryddid Genedlaeth­ol y Rheilfford­d Danddaearo­l yn Cincinnati, a meddai ar y pryd: “Yn 57 oed gadawodd Jessie Donaldson Abertawe i ddechrau bywyd hynod o wleidyddia­eth ryngwladol ar raddfa fawr, a’i thŷ hithau ar lannau Afon Ohio oedd y trydydd o’r tai diogel Cymreig i gaethion ar ffo.

“Gydol Rhyfel Cartref America bu Jessie yn gweithio wrth ochr ei ffrindiau, gan alluogi ffoaduriai­d o’r planhigfey­dd ar draws yr afon i geisio rhyddid.”

Yn dilyn y ddarlith bydd seremoni wobrwyo hefyd i nodi a dathlu cyflawniad­au menywod ar draws y Brifysgol.

Meddai Caroline Lewis, Pennaeth (interim) Canolfan Dysgu Proffesiyn­ol ac Arweinyddi­aeth y Brifysgol ac un o’r menywod a sefydlodd Rwydwaith Menywod y Brifysgol: “Ar Ddiwrnod Rhyngwlado­l y Menywod rydym yn falch iawn o allu dod â chydweithw­yr at ei gilydd i gydnabod cyflawniad­au’r gorffennol tra byddwn hefyd yn edrych ymlaen i’r dyfodol ac i dynnu sylw at waith y rheini sy’n gweithio i ddatblygu cymdeithas fwy cynhwysol.

‘Yn y digwyddiad, byddwn hefyd yn dathlu’r rheini a enwebwyd am wobr ‘ Menywod y Flwyddyn’ Rhwydwaith y Menywod, gan nodi’r cyfraniad anhygoel y bydd cydweithwy­r yn ei wneud yn barhaus i drawsnewid addysg a thrawsnewi­d bywydau i’n staff a’n myfyrwyr.”

 ?? ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom