CHWERWFELYS
Dilyniant i’w nofel Mudferwi yw Chwerwfelys gan Rebecca Roberts, ac yn bendant, os gwnaethoch chi fwynhau’r gyntaf fe fyddwch wrth eich bodd gyda’r nofel hon hefyd.
Nid bod yn rhaid i chi ddarllen y gyntaf er mwyn ei gwerthfawrogi gan ei bod yn sefyll ar ei thraed ei hun, ond eto, mae gwybod stori’r prif gymeriad,
Alys Ryder, o’r cychwyn cyntaf yn cyfoethogi’r profiad o’i darllen.
Mae hon, fel Mudferwi, wedi ei gosod ym mwyty’r Fleur-de-lis, mewn pentref gwledig yng Nghlwyd, ac mae’r ffaith iddi gael ei lleoli mewn ardal arbennig a’r cyfeiriadau at gerdded yn y mynyddoedd yno, yn bendant yn cyfoethogi’r gwaith. Cegin y bwyty, wrth gwrs, yw’r prif leoliad, ac eto mae’r awdur yn cyfleu’r pwysau a ddaw yn sgil y fath waith yn arbennig o dda. Efallai yr hoffwn fod wedi cael mwy o flas o’r bwyd, mwy o ddisgrifio’r seigiau i dynnu dŵr o’r dannedd, ond mae’r ambell ddisgrifiad a geir yn helpu’r darllenydd i gredu ei fod yno.
Er mwyn i nofel fod yn llwyddiannus mae’n rhaid teimlo empathi tuag at y prif gymeriad. Ac yn sicr, mae’n rhwydd iawn i’r darllenydd deimlo empathi tuag at Alys – cymeriad hoffus, gofalus o eraill, sy’n gwneud ei gorau dan amgylchiadau anodd. Ceir nifer o gymeriadau eraill sy’n rhan bwysig o’r stori, a dw i’n meddwl bod y portread o John, cogydd o Albanwr a chymeriad cymhleth, difyr a ffraeth, yn un arbennig o dda. Roedd cynnwys ymateb cwsmeriaid a rôl ddylanwadol Tripadvisor yn syniad arbennig o dda hefyd, gan roi blas cyfredol iawn i’r nofel hon.
Ond, wrth gwrs, yr hyn sy’n gosod y nofel yn fwy na dim arall yn ein cyfnod ni yw’r cyfeiriad at Covid-19 ac effaith hynny ar fusnesau a theuluoedd. Ac mae rhywbeth cysurlon am ddarllen am brofiadau pobl eraill o’r cyfnod erchyll hwn, ac yn fwy na dim eu gweld yn ymdopi a goroesi.
Mae Rebecca Roberts yn ysgrifennu mewn modd uniongyrchol ac mae’r nofel felly’n darllen yn rhwydd. Mae yma nifer o bynciau digon dyrys yn cael eu trafod – dyslecsia, canser, twyll o fewn priodas, magwraeth anhapus – ond caiff y rhain eu gwau’n ddigon twt i stori Alys a’i chariad Duncan, gan wneud y cyfan yn gredadwy, yn hytrach na bod rhywun yn teimlo i’r themâu hyn gael eu gosod yno er mwyn rhoi mwy o ddyfnder i’r stori.
Dyma nofel sy’n werth ei darllen.
■ Dana Edwards
Crynodeb o adolygiad oddi ar gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru
From the Hangry Bear
Here’s what Bradley says about his recipe: “I’ve paired this north-eastern Thai-style herb salad with an impressive bone-in tomahawk pork chop, which has the added bonus of the marbled pork belly attached (if you ask your butcher for this cut, they will know exactly what you mean). This is a substantial dish which is great for sharing with family and friends. The fatty pork chop, when caramelised, stands up to the fiery and punchy flavours of the herb salad and would be even better grilled on the BBQ.”
Ingredients
1 tomahawk pork chop, rind removed and fat scored
2 tbsp Thai light soy sauce 1 tbsp fish sauce
1 tsp caster sugar
A handful each of coriander and mint leaves 4 fresh or frozen kaffir lime leaves, cut into very thin strips
2 lemongrass stalks (hard outer layer removed), finely sliced
2 spring onions, finely sliced
3 Thai shallots, finely sliced
1 tsp toasted rice powder
3 whole Thai dried chillies, for the garnish
3 limes, juiced
2 tsp palm sugar or soft brown sugar 4 tbsp Thai fish sauce
3 tbsp water
6 dried Thai chillies
Method
First, prepare your toasted rice powder by dry frying two tablespoons of raw sticky rice in a medium-hot pan until golden-brown all over (move the pan often to prevent the rice from burning). If you can’t find sticky rice, uncooked jasmine rice will also work for this. Leave to cool before grinding the rice in a pestle and mortar until you get a coarse powder, then set aside.