Ail-greu’r profiad o fod yn efaciwî
MAE wyth o blant o rai o ddinasoedd mwyaf Lloegr – Llundain, Lerpwl a Birmingham – wedi bod ar daith yn ôl mewn amser ac wedi profi sut beth oedd hi i fyw fel efaciwî yng Nghymru ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd mewn cymuned wledig, Gymraeg ei hiaith.
Yn Efaciwîs: Plant y Rhyfel, gadawodd yr wyth person ifanc, rhwng wyth ac 14 oed, eu teuluoedd am wythnos i fyw yn Llanuwchllyn, pentref yng ngogledd Cymru a oedd yn gartref i efaciwîs yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Maent yn cymryd rhan mewn gweithgareddau y byddai disgwyl i efaciwîs eu gwneud yn ôl yn y 1940au gan gynnwys helpu gyda choginio, gwaith tŷ, gwaith fferm a mynd i’r ysgol – i gyd trwy gyfrwng y Gymraeg.
Nid oedd gan yr un o’r wyth brofiad o siarad Cymraeg – ond fel yr efaciwîs gwreiddiol, roedd pob un o’r wyth yn dysgu’r iaith wrth fyw a chymdeithasu gyda phobl leol gan gynnwys 20 o blant Ysgol OM Edwards, rhieni a phobl leol eraill gan gynnwys ysgrifenyddes yr ysgol Nest Davies sy’n chwarae rhan yr athrawes Miss Hughes yn y gyfres.
Meddai Nest: “Mi wnes i fwynhau’r profiad yn fawr iawn – ac mae’n rhywbeth bydda i’n trysori am byth. Yn dilyn y flwyddyn ’da ni gyd wedi cael roedd hi’n braf iawn i gael sgwrs a siarad â phobl. Dw i’n meddwl gwnaeth y gyfres dynnu’r gymuned yn agosach at ei gilydd.”
“Roedd e’n dipyn o beth i’r plant i ddod o’r trefi i ardal ddiarth ac iaith ddiarth. Roedd y plant yn annwyl dros ben ac mi oedden nhw’n siarad ychydig o Gymraeg erbyn y diwedd. Wnaeth plant Ysgol OM Edwards eu gwaith yn wych hefyd – roedden nhw yn ffrindiau da i’r plant o’r dinasoedd a wnaethon nhw ofalu amdanyn nhw.”
Mae’r gyfres Efaciwis: Plant y Rhyfel yn cael ei chyflwyno gan Sean Fletcher (Countryfile, Good Morning Britain) a’r newyddiadurwraig Siân Lloyd (BBC News, Crimewatch Roadshow).
Meddai Sean: “Rwy’n byw yn Llundain gyda fy nheulu ac er bod fy mhlant nawr yn oedolion, dw i ddim yn gallu dychmygu sut brofiad fyddai ffarwelio â nhw pan oedden nhw’n fach – i roi nhw ar drên heb wybod i ble roedden nhw’n mynd.”
■
Efaciwîs: Plant y Rhyfel, S4C, yfory, 8yh
presennol. Dyma drychineb na allai ddigwydd yn unman ond Cymru.
Dw i’n siŵr fod ’na ddywediad yn bodoli am daflu’r baban mas gyda dŵr y bath.
A wedyn drefnon nhw gynghrair gyda thimau De Affrica – hyd yn oed heb Covid mi oedd hyn yn syniad hurt. Beth nesa? Trefnu gemau yn erbyn clybiau Georgia neu Japan? O leia bydde rhain yn cynnig tripiau da i fois yr Aman.
Ond dyna ni, am dri chwarter y tymor ma’ mwy o ddiddordeb ’da fi yng nghanlyniadau ail gynghrair pêl-droed lleol ardal Aberystwyth nag yn ein timau rygbi rhanbarthol.
Mi wnes i chwerthin yn ddiweddar pan geisiwyd creu cyffro o’r ffaith fod Liam Williams wedi newid rhanbarth o’r Sgarlets i Gaerdydd – wneith unrhyw un sylwi? Oes ots?
Rwyt ti’n hen gyfarwydd ag actio mewn dramâu – sut mae ffilmio opera sebon yn cymharu?
Wel i ddweud y gwir, nes i ymddangos ar Pobol y Cwm pan o’n i’n 17 i chwarae rhan cymeriad o’r enw Vicky am gwpwl o fisoedd tra’r o’n i’n yr ysgol. Doeddwn i ddim yn gwybod beth o’n ni’n neud bryd hynny, gan mai dyna oedd fy nhro cynta ac roedd hynna dipyn o flynyddoedd yn ôl’!
Ro’n i methu credu pa mor gloi o’dd raid troi golygfeydd rownd; roedd hynna’n sioc. Mae pwyslais i drio bod yn dda ar y têc cynta’, lle mewn drama mae mwy o amser i ail-wneud golygfeydd, felly mae wedi bod yn ymarfer da i mi. A hefyd, mae’n rhaid dysgu geiriau, a’u dysgu erbyn fory, ar gyfer gymaint o wahanol olygfeydd. Rhaid bod yn ddisgybledig.
Sut beth oedd aros yn y gogledd am gyfnod ar gyfer ffilmio yn y gyfres?
Roedd yn dipyn o saib o’r ddinas, ac roedd yn braf i fod mor agos at natur.
■ Rownd a Rownd, S4C, Dydd Mawrth a Dydd Iau, 8.25yh
O leia mi gafwyd rhyw ddifyrwch dros yr wythnosau diwetha wrth i sêr Cymru chwarae i’w rhanbarthau – rhywbeth bron mor brin â chlywed am wleidydd dilychwyn yn San Steffan.
Mi gafon ni weld Rhys Patchell yn chwarae i’r Sgarlets a gweld Caerdydd yn rhoi gêm i’r Harlequins. Ond yr unig fuddugoliaeth i ranbarth Cymreig oedd un a roddwyd ar blât oherwydd salwch yng ngharfan y gwrthwynebwyr.
Ma’ siŵr fod Robin McBryde yn rhyfeddu dros ei Guinness draw yn Nulyn.
O leia ma’r Chwe Gwlad gyda ni i edrych mlaen ato a digon o atgofion o’r gorffennol i’n cadw’n ddiddan am flwyddyn neu ddwy eto.
@lefigruffudd