Sut i fyw bywyd iach arlein
GYDA mwy o wasanaethau yn symud arlein, mae ein dibyniaeth ar dechnoleg yn cynyddu. Ond sut beth yw rhannu bron popeth gyda’r byd trwy’r we? Dyma fydd Jess Davies, dylanwadwr 28 mlwydd oed, yn trafod mewn rhaglen ddogfen newydd ar S4C. Bydd DRYCH: Bywyd Jess Arlein ymlaen nos yfory am 9yh.
Meddai Jess: “Dw i’n ddylanwadwr – dw i’n postio lluniau a rhannu be’ dw i’n gwneud, gwisgo, bwyta a meddwl gyda dros 150,000 o ddilynwyr.
“Weithiau mae cwmnïau yn talu fi i bostio ac weithiau dw i jyst yn postio i ddechrau sgwrs bwysig.
“Dw i wedi byw’r degawd diwethaf ar y cyfryngau cymdeithasol – fy mywyd cyfan fel oedolyn, ac i fod yn onest dw i’n caru fe. Diolch i instagram dw i wedi teithio’r byd fel model, cwrdd â phobl amazing a lansio fy ngyrfa fel cyflwynydd. Dw i’n addicted.”
Yn wreiddiol o Benrhyn-coch ger Aberystwyth, bydd Jess yn pwyso a mesur defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol. Fel rhan o’i hymdrech i addysgu a chefnogi, bydd Jess yn mynd yn ôl i Ysgol Gynradd Penrhyn-coch, ble bu hi’n ddisgbyl, i gynnal gweithdy gyda’r genhedlaeth nesa ar sut i ddefnyddio’r we yn ddiogel.
Bydd Jess hefyd yn cwrdd â’r arbenigwr cyfryngau cymdeithasol, Owen Williams, i weld pa dechnegau mae’r cwmnïau mawr yn defnyddio i geisio ein “caethiwo”.
Am y tro cyntaf erioed, mae Jess yn trafod ei pherthynas gymhleth â bwyd a’r cyfnod anodd yn ei bywyd pan oedd yn dioddef o anhwylder bwyta.
Ar y pryd, roedd hi’n teimlo o dan bwysau i gydymffurfio gyda disgwyliadau’r cyfryngau cymdeithasol i edrych yn “berffaith”.
Er mwyn gallu helpu eraill i fyw bywyd iach arlein, bydd Jess yn siarad â phobl sydd wedi
profi’r chwerw a’r melys, yn ogystal ag edrych ar ei rôl a’i chyfrifoldebau hi fel dylanwadwr.
“Dw i wedi brwydro gyda delwedd corff, trolio a heriau iechyd meddwl, a nawr dw i’n ddylanwadwr, dw i’n poeni – ydw i’n rhan o’r broblem?” meddai Jess.
Yn ôl Jess, mae ei phostiadau angerddol am ffeminyddiaeth yn cael 100 o “likes”, ble mae postiadau ohoni mewn bikini yn cael eu hoffi miloedd o weithiau. Felly oes gyda ni fel unigolion a chymdeithas hefyd rôl mewn sicrhau llesiant defnyddwyr, a’r bobl sy’n creu’r cynnwys?
Mae Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland, yn nodi fod tri mewn bob 10 plentyn rhwng pump a saith oed yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol, a bod o leiaf hanner ohonynt arlein. Mae’r mwyafrif yn gwneud ffrindiau, dysgu a chael hwyl, ond mae hi hefyd yn nodi fod 50% o blant 12 i 15 mlwydd oed wedi cael profiadau negyddol fel bwlio, hiliaeth, rhywiaeth neu aflonyddu.
Fel person sy’n dwlu ar cyfryngau cymdeithasol, mae Jess yn awyddus i rannu’r buddiannau i ddefnyddwyr o bob oedran, yn enwedig y gallu i godi ymwybyddiaeth, creu cymunedau a bod yn gymdeithasol.
Yn ôl Amber Davies, dylanwadwr sydd gydag anabledd cudd, mae platfformau fel Instagram yn hollbwysig i bobl ddarganfod cynrychiolaeth.
Mae’r chwaraewr rygbi Ashton Hewitt, sydd wedi dioddef cam-drin hiliol arlein a bellach yn helpu dioddefwyr eraill, yn cytuno.
“Mae’r we yn gallu bod yn lle amazing i ffeindio cymuned dy hun” meddai Jess. “Ond, mae’n amser i mi ail-feddwl fy mywyd ar-lein. Dw i eisiau gwneud gwahaniaeth, dw i eisiau bod yn rhan o’r ateb wrth beidio postio cynnwys gall fod yn beryglus. A dw i’n credu dyle lot mwy o ddylanwadwyr eraill wneud hwnna.”