Tŷ Am Ddim yn dychwelyd
DYCHMYgWCH dderbyn tŷ am ddim, ei adnewyddu, ei werthu a phocedu’r elw! Mae’n swnio’n rhy dda i fod yn wir, ond dyma’r cysyniad tu ôl i’r gyfres eiddo arloesol Tŷ Am Ddim sy’n dychwelyd i S4C am gyfres newydd. Dyma gyfle i ddal i fyny gyda’r cyflwynydd Carys Davies...
I bobl sydd heb ei weld, dywedwch wrthym am Tŷ Am Ddim.
Carys: “Mae’n gysyniad gwych – rydych chi’n cymryd dau berson nad ydyn nhw erioed wedi cyfarfod o’r blaen ac yn rhoi tŷ iddynt – naill ai trwy arwerthiant (fel yn y gyfres gyntaf) neu, yn yr ail gyfres, rydyn ni’n gwneud cynnig ar eu rhan. Maent yn dod yn bartneriaid busnes am chwe mis er mwyn paratoi’r tŷ i’w werthu. Maent yn cael cyllideb, ac mae’n rhaid iddynt wella’r eiddo o fewn y gyllideb ac o fewn amserlen benodol.
“Yn amlwg, gallan nhw dynnu ar arbenigedd neu gymorth gan eu ffrindiau a’u teulu. Mae ganddyn nhw chwe mis i adnewyddu’r tŷ, ei roi ar werth a sicrhau ‘gwerthiant y cytunwyd’ arno.
“Maen nhw yn cadw unrhyw elw maent yn ennill o’r pris gwerthu. Yr unig amodau ar gyfer cymryd rhan yw eu bod nhw ddim yn berchen ar dŷ – mae rhaid eu bod nhw yn rhentu tŷ neu yn byw gyda’u rhieni ac ati.
Mae’r gyfres yn hynod boblogaidd – enillodd fersiwn Channel 4 Bafta ac rwyt ti wedi cael dy enwebu am nifer o wobrau eraill – wyt ti wedi cael dy synnu gyda’r ymateb?
Carys: “Mae’n wych bod y gyfres wedi ennill Bafta. Ydw i wedi synnu? Na – oherwydd dw i’n meddwl ei fod yn fformat wych! gall pobl adre’ uniaethu ag e – mae’n rhaglen feel-good. Wrth gwrs mae ’na uchafbwyntiau ac isafbwyntiau ond rydych chi’n dod i adnabod pobl ar y sgrin, ac yn amlwg maen nhw eisiau bod ar y property ladder a gwneud bywyd gwell iddyn nhw a’u teulu.
Ydy’r cyfranwyr yn gwrando arnat ti ac yn cymryd dy gyngor?
Carys: “Rwy’n rhoi awgrymiadau iddyn nhw ac yn ceisio dweud pethau wrthynt drwy’r amser. Os ydych chi’n dibynnu ar help, a theulu a fideos ‘how to’ ar YouTube – rydych chi’n amlwg yn mynd i wneud mwy o elw. Mae rhai yn gwrando ond dyw rhai ddim – ond dyna hwyl y fformat.