Western Mail - Weekend

Brett yn ymladd dros yr iaith

-

UCHELGAiS Llywodraet­h Cymru yw gweld miliwn o bobl yn gallu mwynhau siarad a defnyddio’r Gymraeg erbyn 2050. Yn y rhaglen ddogfen tafod-yn-y-foch Pa Fath o Bobl – Un Mewn Miliwn, bydd Garmon ab ion yn holi ydi’r strategaet­h yn debygol o lwyddo?

Nid yn unig mae Garmon yn credu nad oes miliwn o bobl yn byw yng Nghymru, dyw e ddim yn credu bod Llywodraet­h Cymru yn gwneud digon i ddenu’r siaradwyr hyn i ennill brwydr yr iaith, a’u bod angen edrych “y tu allan i’r bocs”.

Yn ôl ef, mae tri pheth yn sicr mewn bywyd, sef y tair “C” – Cwffio, Caru, Canu ag os gellir cyflawni’r tri peth elfennol yma trwy’r Gymraeg mae’r frwydr ar ei hennill!

Un sydd wedi hen arfer â chwffio yw’r ymladdwr Brett Johns o Bontarddul­ais. Mae Garmon yn mynd am y gorllewin i gwrdd â Brett.

Er bod Brett yn falch iawn o’i wreiddiau a’i Gymreictod, mae ei berthynas gyda’r Gymraeg wedi bod yn un cymysglyd. Meddai Brett: “Roedd mam yn siarad Saesneg, ond wnaeth hi anfon fi a ’mrawd i ysgol Gymraeg. Ni oedd yr unig siaradwyr Cymraeg yn y teulu.

“Pan oeddwn i mas gyda’n ffrindiau sy’n siarad Cymraeg, do’n i dal ddim yn siarad lot ohono fe. Yn edrych nôl nawr, hoffwn i siarad fwy o Gymraeg wrth gwrs, ond pan o’n i’n ifanc doeddwn i ddim.”

Ac yn ôl Brett, yr hyn sy’n allweddol i ddefnyddio’r iaith mewn bywyd bob dydd yw cael digon o hyder i wneud hynny: “Yn y de, ac yn enwedig Abertawe, ’sdim lot o hyder i siarad Cymraeg, a dw i’n meddwl bod pawb yr un peth yn ysgol– dyw e ddim yn cŵl iawn i’w siarad. Do’n i ddim wedi siarad gair o Gymraeg am dwy flynedd, ac wedyn o’n i’n ffili cofio gair ohono. Rhoddodd e ofn i fi. Felly nawr, pan mae gen i unrhyw siawns i siarad Cymraeg, dw i’n mynd amdani ac mae gen i hyder i’w siarad.”

Yn y rhaglen, cawn hefyd gwrdd ag unigolion sy’n cynrychiol­i’r “caru” a “canu” ym maniffesto unigryw Garmon. Mae’r fodel glamour Lowri Rose o Gaerdydd, gyda dros 525,000 o ddilynwyr TikTok ac yn boblogaidd ar lwyfan Onlyfans. Cafodd addysg Gymraeg yng Nghaerdydd, ond mae hi wedi colli hyder i siarad yr iaith.

Ac o ran y canu… cawn glywed gan fand Bandicoot o Abertawe sydd wedi dechrau ysgrifennu caneuon yn y Gymraeg. Ar ôl symud dros y ffin i fynd i’r brifysgol, cafodd aelodau’r band epiffani diwylliann­ol a gweld eisiau Cymru a’r iaith.

■ Pa Fath o Bobl – Un Mewn Miliwn, S4C, Dydd Gwener, 9yh

gwaith Owen yn mynd ag e i rai o gyrchfanna­u mwyaf mawreddog Ewrop.

“Dw i wedi gweld tipyn o’r byd gyda’r ceffylau mae’n rhaid gweud. Mae’n neis gweld shwt mae’r bobl eraill yn byw ambell waith.”

Wrth iddo gael paned a seibiant ar ôl cludo wyth caseg o’r radd flaenau i chateau enfawr yn Llydaw, mae’n dweud: “Fi’n credu mai dyma’r lle mwyaf trawiadol fi byth wedi bod yn erioed.”

Mae Emrys Jones o fridfa Bychan yn gytûn fod ei waith yn hynod wobrwyol, gydag “ennill sioe fel ennill loteri”. Mae eu mab, Rhodri, wedi meistroli’r grefft o arddangos ceffylau Arab tanllyd mewn sioeau, ac yn cael llwyddiant ledled y byd.

Gyda phrofiad y teulu wedi ennill enw da am fagu, arddangos a gwerthu ceffylau Arab, mae nifer o’u cwsmeriaid yn brynwyr o’r Dwyrain

Dyw Guto ddim yn glown i gyd, wrth gwrs. Mae e ddigon blaengar a llwyddiann­us.

Mi wnaeth e hyd yn oed dderbyn swydd o gyflwyno ar GB News, fel y cenedlaeth­olwr ag yw e.

Teg dweud ei fod yn beth da nad yw Guto yn poeni am yr hyn ma’ pobl yn ddweud amdano, ac mae’n wir ei fod yn gwneud eitha tipyn trwy gyfrwng y Gymraeg.

A phwy all wadu nad yw’n dda cael rhywun sy’n fodlon beirniadu a herio pethe yn y byd Cymraeg?

Roedd yn ddifyr ei glywed yn sôn ar y radio mai arwr Boris Johnson oedd y Maer hwnnw ar y ffilm Jaws, nad oedd am gau’r traeth wrth i’r siarc ymosod. (Mae hyn yn dweud tipyn am sut wnaeth e ddelio gydag argyfwng Covid falle).

Canol – ac yn codi pris o hyd at hanner miliwn o bunnoedd. Mae Emrys, a’i wraig Sue wedi profi llwyddiant wrth arbrofi gyda semen meirch o wahanol wledydd, a’u hymgais nesa yw bridio ceffyl all ennill pencampwri­aeth y byd am y trydydd tro.

Mae Emrys wrth ei fodd pan mae’r ebol diweddara yn cyrraedd yn iach, meddai: “Ar ôl yr amser gwael ni ’di cael, mae’n grêt i weld rhywbeth mor neis ac iachus yn dod ’mlaen. Mae’n rhoi gobaith i chi am y dyfodol, a gobeithio bydd dyfodol da iddo fe hefyd.”

Am fwy o hanesion y ddau fusnes bach ym myd y ceffylau mawr, gwyliwch DRYCH: Ceffyl Blaen nos yfory.

DRYCH: Ceffyl Blaen, S4C, yfory, 9yh

Dw i wedi bod yn gwylio nifer o’r rhaglenni Byd yn ei Le yr oedd Guto’n eu cyflwyno (tan yr wythnos hon, hynny yw), ac ambell waith yn mwynhau gweld cwestiynu caletach na’r arfer.

Ac eto, allwch chi ddim peidio dod i’r casgliad mai nid cyflwynydd sydd am hyrwyddo Cymreictod sydd yma, ond un sy’n defnyddio ei ddylanwad i hyrwyddo syniadau adain dde ar wylwyr S4C (a hynny’n aml drwy gyfrwng y Saesneg).

Roedd e fel tase fe am normaleidd­io syniadau o’r dde eithafol Seisnig, ac wrth gwrs, roi hygrededd i Brif Weinidog hynod niweidiol i Gymru, sydd yn dipyn peryclach na’r ddelwedd clownaidd a gyflwynir ohono.

 ?? ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom