Gofid a galar y ffoaduriaid
MEWN rhaglen arbennig o Y Byd ar Bedwar bydd y newyddiadurwr Iolo ap Dafydd yn teithio i Wlad Pwyl i glywed profiadau rhai o’r miloedd sydd wedi gorfod ffoi o Wcráin yn dilyn ymosodiad rwsia ar y wlad.
Yn gynohebydd i’r BBC ac i TrT World, mae Iolo ap Dafydd wedi bod yn newyddiadura ar nifer o ryfeloedd y byd yn ystod ei yrfa yn cynnwys rhyfel y Crimea yn 2014. Ond doedd e ddim wedi disgwyl y sefyllfa bresennol yn Wcráin i ddwysau mor sydyn.
“Cyn rhyfel Irac, Afghanistan, cyn Kosov... roedd ’na deimlad anorfod weithiau bod cloc yn cerdded at ryfel. Dw i ’di gohebu a dilyn a dyfalu pa mor anorfod yw’r trywydd yna tuag at ymladd. Tro yma dw i’n teimlo, ar ôl i rwsia anfon yr holl daflegrau a’r arfau i’r ffin â Wcráin, roedd gwrthdaro wastad yn gallu digwydd ond dw’n i ddim faint o bobl fis nôl fyddai wedi darogan y byddai’n debygol. Ma’ Putin yn mynd i gael ei gofio fel yr arweinydd sydd wedi peryglu heddwch cyfandir Ewrop wedi iddo fygwth rhyfel niwclear a meddiannu ac ymosod ar Wcráin,” meddai Iolo.
Mae tua miliwn o bobl bellach wedi gorfod gadael eu cartrefi a ffoi o Wcráin.
Bydd Y Byd Ar Bedwar yn dilyn taith Iolo i Medyka, tref yng Ngwlad Pwyl ger y ffin ag Wcráin, sydd bellach yn groesffordd i’r ffoaduriaid.
“Ar y ffin yng Ngwlad Pwyl dw i ’di gwylio pobl yn ffoi o’u gwlad eu hunain, yn dianc i ddiogelwch... cymaint ydi’r ofn be all ddigwydd nesaf. Ma’ nhw’n cerdded yn ben isel, yn ddagreuol, yn flinedig ac yn cario plant a babanod a phrin dim byd arall. Dw i wedi gwylio pobl gyffredin yn ceisio ymdopi â’r argyfwng mwya’ anghffredin yn eu bywydau. O siarad gyda phobl, yr Wcraniaid sy’ ’di dod draw, ma’ agweddau pobl yn caledu. Ma’n anodd gweld nhw’n ildio... os fydd ymosodiadau Putin yn parhau ac yn dwysáu, mi all y colli bywydau a’r tywallt gwaed fod ar raddfa ofnadwy”.
Bydd y rhifyn arbennig o Y Byd ar Bedwar ar S4C nos Lun am 8pm ac ar S4C Clic.
■ Y Byd ar Bedwar: Argyfwng Wcráin, S4C, Dydd Llun, 8yh
e nôl, roedd yr abaty yn adfail a chanrifoedd wedi mynd heibio. Trodd y mynach druan yn llwch yn fuan wedyn.”
Mae Heledd yn ymweld â Chaerwys – un o drefi lleiaf Prydain ac yn clywed am hanes brodor o’r dref sef Thomas Wynne a’i ddylanwad ef ar gynllun strydoedd dinas Philadelphia yn yr Unol Daleithiau ac enwau Cymraeg y strydoedd sy’n dal i fodoli yna.
Mae hi hefyd yn ymweld â Neuadd Mostyn ac yn dysgu mwy am yr Eisteddfod a gynhaliwyd yna dan orchymyn y frenhines Elizabeth I bron i 500 mlynedd yn ôl, ac mae hi’n cael gweld trysor sy’n cael ei gadw yna, sef telyn arian a roddwyd fel gwobr i’r telynor gorau yn yr Eisteddfod honno.
Yn ogystal â’i hanes diwylliannol, mae gan ardal Treffynnon hanes diwydiannol hir a llwyddiannus – adnabuwyd fel Merthyr Tudful y gogledd.
blaenorol y degawdau diwetha, er mor erchyll a gwarthus fu nifer ohonyn nhw (ac er mor agos yw Bosnia mewn gwirionedd). Ac mi oedd ’na fodd o weld datrysiad i rai ohonyn nhw.
Ond Wcráin? Ma’ hyn lot mwy brawychus. Roedd gen i gynlluniau i fynd i Kyiv yn sgil tocyn awyren sydd gen i ar ôl methu mynd i Baku. Nawr allwn ni ond gweddïo bydd y ddinas yn bodoli o gwbl.
Mae nifer wedi trio esbonio fod Putin wedi colli’r plot yn ddiweddar, ond y gwir yw fod y Gorllewin yn gwybod yn iawn mor ynfyd oedd e ddegawdau yn ôl.
Ddarllenais i lyfr am Putin yn ystod y clo cynta (oedd o leia’n gwneud i fi beidio poeni am Covid!),
Meddai Iestyn: “Aeth yr hanesydd John Davies gam ymhellach wrth ddisgrifio pwysigrwydd gweithgarwch diwydiannol y rhan yma o ogledd ddwyrain Cymru. Roedd e’n gwbl grediniol mai yn yr ardal yma y gosodwyd seiliau’r chwyldro a hynny ymhell cyn y cynnwrf a ddigwyddodd yn ddiweddarach yn ne Cymru.”
Mae Iestyn yn darganfod mwy yn Nyffryn Maes Glas – ardal tua milltir a hanner o hyd bu’n safle i 19 o ffatrïoedd yn cynhyrchu pob math o nwyddau gan gynnwys sosbannau copr a phapur.
Darganfyddwch mwy am yr ardal hynod hon ar Cynefin, nos Fawrth, ar S4C.
Gallwch dal i fynnu ar S4C Clic gyda’r rhaglen gyntaf yn y gyfres newydd wrth i’r tîm ymweld â Beddgelert.
■
Cynefin, S4C, Dydd Mawrth 9yh