Creu hanes wrth dorri recordiau
rOEDD Dydd Gŵyl Dewi eleni yn ddiwrnod o ddathliad go anarferol i ambell Gymro a Chymraes – wrth iddyn nhw nodi’r achlysur drwy ymdrechu i dorri recordiau byd mawr a bach!
O dynnu bws deulawr 20 metr yn yr amser cyflymaf, sleisio’r nifer fwyaf o bitsas mewn tri munud, a chelaingodi’r car trymaf mewn munud, cafwyd ymdrech i dorri 11 o recordiau byd swyddogol Guinness World records ar ddydd ein Nawddsant.
Dyma’r drydedd flwyddyn yn olynol i S4C ymuno â Guinness World records i arddangos doniau Cymru – ei phobl, ei diwylliant a’i balchder. Bydd yr holl gyffro i’w weld mewn rhaglen arbennig, Guinness World records Cymru 2022 ar nos Wener.
Mae’n debyg bod sawl baner draig goch yn cael ei chwifio led led y wlad ar Fawrth y 1af, ond go brin bod golygfa mor drawiadol â’r un oedd ym Methesda, wrth i’r cyflwynydd teledu, yr anturiaethwraig ac athletwraig eithafol Lowri Morgan fynd ati i dorri record am ddadrolio’r faner fwyaf – 101.4m² ar wifren wib! Er mwyn cyflawni’r ymgais, roedd gofyn i Lowri ryddhau’r faner a’i dadrolio’n gyfan gwbl mewn dim mwy na 10 eiliad, a hynny wrth deithio ar wifren wib ar gyflymder o 70 milltir yr awr! Ac er gwaetha’r niwl a’r glaw rhewllyd i ychwanegu cymhlethdod i’r dasg, fe lwyddodd Lowri i dorri’r record heriol.
Sialens go anghyffredin oedd yn wynebu’r athletwr paralympaidd Aled Siôn Davies hefyd. Y dasg i’r gŵr sydd wedi ennill medal aur paralympaidd am daflu disgen oedd taflu iâr rwber y pellter mwyaf, a hynny yn y Ganolfan Athletau Dan Do Genedlaethol yng Nghaerdydd!
Ond cyn taflu’r iâr rwber, roedd her arall – sef taflu llyfr Guinness World records.
“Dw i angen meddwl am y dechneg a siâp y llyfr,” meddai Siôn yn y rhaglen, wrth iddo edrych ymlaen at y dasg o’i flaen.
“Dw i’n meddwl byddai’n defnyddio’r un dechneg â discus gan fod y siâp rhywbeth yn debyg, a jest gweld sut mae’n mynd.
Felly tybed bu ymdrechion Siôn yn llwyddiannus? Bydd y cyfan i’w weld yn y rhaglen.
■ Guinness World Records Cymru 2022, S4C, Dydd Gwener, 9yh