Hanes dramatig ardal y Cleddau
BrENhiNOEDD, Llychlynwyr a môr ladron; mae olion hanes dramatig a thywyll Sir Benfro dal i’w gweld yn y Cleddau a’r gongl hynod yma o arfordir Cymru.
O’r creigiau ar draeth Marloes sydd dros 440 miliwn o flynyddoedd oed, i gastell Penfro, ble ganwyd harri Tudur, i’r enwau Llychlynnaidd ar draws y sir, mae’r ardal yn frith o hanes cyfoethog.
Ond fel y byddwn ni’n clywed ar raglen Cynefin, ar nos Fawrth ar S4C, mae porthladd prysur Aberdaugleddau dal yn cael ei hadnabod fel man geni un o fôr ladron enwocaf yr ardal, hywel Davies.
“Cafodd e yrfa lewyrchus fel morleidr yn yr 17eg ganrif,” meddai cyflwynydd Cynefin, Siôn Tomos Owen. “Er, dim ond am 11 mis buodd e’n ysbeilio a lladrata. Oedd hi’n jobyn beryglus.
“Daeth hywel yn forleidr wedi i’r llong oedd e’n gweithio arni, llong gaethweision, gael ei chipio gan y morleidr, Edward England. Cafodd hywel ei wneud yn gapten ar y Cadwgan gan England. Symud o un yrfa amheus i un arall, allwch chi ddweud.
“Cyn bo hir, daeth e’n forleidr o fri, gan gipio o leiaf 15 llong a hel ffortiwn. Ond daeth diwedd ar lwc Davies yn y pen draw.
“Cafodd y morleidr ei wahodd am lasiad fach o win gan lywodraethwr ynys Principe. Oedd e’n meddwl bod e’n gallu cymysgu gyda bonheddwyr, ond yn ddiarwybod i Davies, roedd criw gyda gynnau yn aros amdano fo. A dyna ddiwedd ar hywel Davies o Aberdaugleddau.
“Ond wyddoch chi pwy gafodd ei ddewis fel capten y llong ar ei ôl e? Barti Du – morleidr arall o Sir Benfro.
“Ond mae honno’n stori arall.” hefyd yn y bennod yma, mi fydd iestyn Jones yn clywed am ymdrechion Cyfoeth Naturiol Cymru a’r cyhoedd i ddogfennu erydiad clogwyni’r arfordir.
Ac mi fydd heledd Cynwal yn ymweld ag Ynys Sgomer; ynys hanesyddol sydd bellach yn gartref dros i dros 350,000 o barau o adar drycin Manaw, 35,000 o balod a channoedd o forloi.
Cynefin, S4C, Dydd Mawrth, 9yh