Western Mail - Weekend

Arwerthwyr tai wrth eu gwaith

-

GYDA’R farchnad dai yn symud yn gynt nag erioed, fe gawn ni fynd ar daith gydag arwerthwyr tai ar hyd a lled Cymru wrth i gartrefi Cymru fynd ar werth.

Mewn cyfres newydd fydd yn cychwyn ar S4C nos Fercher, byddwn yn dilyn arwerthwyr tai wrth eu gwaith ac yn cwrdd ag Ian Wyn-Jones a Jeian Jones sy’n mynd â ni o gwmpas tai sydd ar y farchnad yn ardaloedd Gogledd Cymru ac ardaloedd amaethyddo­l, arfordirol a threfol De Cymru, a Iestyn Leyshon, datblygwr a chynghoryd­d eiddo tai yn Aberystwyt­h fydd yn dangos ei brosiect nesaf – adnewyddu hen siop yn y dref!

Mae’r farchnad dai yng Nghymru wedi bod yn chwilboeth, a phrisiau wedi codi yn uwch nac unrhyw fan arall ym Mhrydain dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae’r pandemig wedi chwarae rhan mawr yn nhŵf y farchnad dai, ac fe welwn ni enghreifft­iau o hyn wrth i ni ddilyn yr arwerthwyr tai wrth eu gwaith bob dydd.

“Aeth o go dawel i fod yn boncyrs!” medd Jeian Jones o gwmni arwerthwyr tai Clee Tompkinson Francis wrth fyfyrio dros y cyfnod o werthu tai yn ystod y pandemig.

Ian Wyn-Jones, arwerthwr tai sydd ym Mhenrhynde­udraeth yn gwerthu capel “Gorffwysfa” sydd wedi’i drawsnewid i fod yn adeilad preswyl godidog gyda phris gofyn o dros hanner miliwn o bunnoedd.

“Y tŷ ’ma ’wan, ma’ siŵr cyn Cofid ’sa hwn yn dod ar y farchnad o gwmpas three seven five, ella four hundered... rŵan... half a million.” A do, fe werthodd y capel am dros hanner miliwn!

Maer Llanymddyf­ri, Handel Davies a’i wraig Margaret sydd yn gwerthu’u cartref teuluol pedair ystafell wely ac erw o dir.

Mae’r tŷ wedi bod yn y teulu am 45 o flynyddoed­d, ond, gyda’r plant bellach wedi gadael y nyth, mae’r cwpwl wedi penderfynu ei roi ar y farchnad.

Maent am symud i’r byngalo drws nesaf – felly bydd angen gwneud gwaith archwilio trylwyr o’r prynwyr newydd cyn cytuno ar bris! Jeian sydd am werthu’r tŷ – ydy hi am ddarganfod y cymdogion perffaith i Handel a Margaret?

Ar Werth, S4C, Dydd Mercher, 8.25yh

teledu o’i soffa adre gyda’i gŵr Graham fel un o wynebau cyfarwydd y gyfres Gogglebox ac erbyn heddiw mae hi’n un o gyflwynwyr amlycaf Songs of Praise.

Mae hi hefyd yn llais cyfarwydd ar Radio 2 ac yn dihuno’r genedl pob bore Sul gyda Jason Mohammad.

Ac er ei bod hi wedi ei geni a’i magu yn Sheffield, mae’r Gymraeg wedi dod yn rhan fawr o’i bywyd.

“Wel, mae’r tîm Songs of Praise dw i’n gweithio gyda i gyd yn Gymry ac mae Jason Mohammad yn siarad Cymraeg. Ond un o’r prif resymau dw i’n dysgu’r Gymraeg yw, i fod yn onest, mae gen i gywilydd fy mod i’n gallu dweud ‘helo’ a ‘diolch’ yng Ngroegaidd, Sbaeneg, Eidaleg a Ffrangeg ond dw i methu siarad Cymraeg ac mae Cymru jysd draw fynna! Mae hi’n iaith bwysig.

“Y peth hoffwn i wir ei wneud yw gallu adrodd Gweddi’r Arglwydd yn y Gymraeg. Mae hyn yn freuddwyd i mi.”

Yn ogystal â gweithio gyda’i gilydd mae Kate a

bardd pennaf, Dafydd ap Gwilym ar sail ei gamdriniae­th o ferched a’i ragfarnau gwarthus. Onid yw’r cyfeiriada­u at Hicin a Siencyn a Siac a’i drafferthi­on mewn tafarn yn drewi o xenophobia?

Efallai na ddaw hi i hyn, ond mewn oes o begynnu barn, canslo a gwahardd llyfrau yn gynyddol, mae ’na le i boeni.

Mae’r tueddiad i’w weld waethaf yn yr Unol Daleithiau (ond fel sy’n tueddu i ddigwydd, ma’ pethau sy’n digwydd yno’n cyrraedd fan hyn yn syndod o gyflym).

Yno mae ymgyrchwyr ceidwadol yn brwydro dros wahardd y clasur Maus (nofel graffeg enillodd y Pulitzer) ymhlith eraill – mae wedi ei dynnu oddi ar y cwricwlwm gan fwrdd ysgolion yn Tennessee oherwydd ambell reg a noethni cartŵn o lygoden. (Mi ddisgrifio­dd yr awdur, Art

Jason yn ffrindiau da. Meddai Jason: “Mae Kate Bottley yn nyts! ’Da ni’n ffrindiau mawr a dw i wrth fy modd ac yn edrych ymlaen at weld Kate yn dysgu’r iaith Gymraeg.”

Mae’r ddau yn dechrau ar eu taith ym Mharc Treftadaet­h y Rhondda lle mae Kate yn helpu yn y caffi a gweini aelodau o’r Merched y Wawr leol. Ymlaen at Onllwyn, Castell Nedd ac mae

Kate yn clywed mwy am Streic y Glowyr ym 1984 a’r ffilm Pride gan y cyn-aelod seneddol Siân James.

Mae’r daith yn dod i ben yn Sir Benfro lle mae Kate yn gorfod wynebu ei her gyfryngol, sef cael ei chyfweld gan Nia Roberts ar Dechrau Canu, Dechrau Canmol a darllen Gweddi’r Arglwydd yn y Gymraeg yn

Eglwys Gadeiriol Tyddewi.

Bydd Kate yn ymddangos ar raglen Dechrau Canu nos yfory am 7.30yh syth cyn Iaith Ar Daith am 8yh.

Iaith Ar Daith, S4C, yfory, 8yh

Spiegelman y sefyllfa bresennol fel un tu hwnt i Orweliaeth: “A culture war that’s totally out of control.”).

Teg dweud nad yw’r sefyllfa gynddrwg fan hyn, ond dw i wedi cael blas o sut mae pethau’n mynd wrth fynychu cwrs ar adfeddiant diwylliann­ol.

Erbyn hyn, mae’n ymddangos bod angen i unrhyw nofelydd sydd am sgwennu am unrhyw beth tu hwnt i’w brofiadau ei hun bennu is-bwyllgor ymgynghoro­l neu olygyddion niferus o safbwynt gwahanol gymeriadau sy’n codi o fewn eu nofel. Sut ddaw awduron i ben? A oes angen anfon pob awdur neu ddarpar awdur ar gwrs?

Falle bod hyn yn bosib yn y diwydiant mawr Saesneg, ond sut fyddai rhywun yn ymdopi gyda’r fath dasg yn Gymraeg? Mae wedi cael ei wneud yn llwyddiann­us gyda chyfres Y Pump (gyda

 ?? ??
 ?? ?? > Kate Bottley a Jason Mohammad yn Sir Benfro
> Kate Bottley a Jason Mohammad yn Sir Benfro

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom