Cyfres yn dilyn y Llinell Las
RHWNG Mehefin a Medi 2021 derbyniodd Heddlu Gogledd Cymru 35,279 o alwadau 999. Roedd hynny 5,612 yn fwy na’r haf blaenorol.
Mae rhanbarth Heddlu Gogledd Cymru yn gwarchod ardal eang iawn – bron i draean o dir Cymru, ac mae’r problemau sy’n codi yn amrywio o ardal i ardal – o ddinasoedd y dwyrain i gefn gwlad y gorllewin.
Mewn cyfres newydd o Y Llinell Las, sy’n dechrau nos Fercher, cawn ddilyn Uned Plismona Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru wrth eu gwaith rhyfeddol o ddydd i ddydd. Trwy gamerâu yn y ceir ac yn y ddalfa yn ogystal â chamerâu cyrff, mae’r gyfres yn rhoi portread cwbl onest o waith yr Uned wrth iddyn nhw weithio i’n cadw ni a’n cymunedau’n saff. A chawn ddod i adnabod y dynion a’r merched “go iawn” y tu ôl i’r swyddi.
Yn ystod misoedd yr haf, mae poblogaeth gogledd Cymru’n cynyddu hyd at 30%, ond yn sgil rheolau Covid a chyfyngiadau ar deithio tramor, roedd yr ardal yn fwy prysur nag erioed, a phwysau ychwanegol ar yr awdurdodau.
“Gawson ni haf prysur, ac roedd Covid yn dweud wrth bobl i aros adre felly roedd gogledd Cymru’n gridlocked,” meddai PC Rich Priamo, sydd wedi gweithio yn Uned Plismona’r Ffyrdd ers pedair blynedd.
“O’dd yr A55 fatha’r M25 – doedd neb yn gallu symud, a pan oeddan ni’n trio cyrraedd jobs, fel arfer da’n ni’n gyrru 120 i 140 milltir yr awr ar yr A55, roeddan ni’n gyrru 12 i 14 milltir yr awr,” ychwanega.
“Mae amser yn critical i ni gyrraedd scenes
– a ddim jest ni, ond y gwasanaeth ambiwlans a tân hefyd. Roedd cyrraedd scene fyddai’n arfer cymryd 10 munud yn cymryd hanner awr. Mayhem i ni.”
Yn y rhaglen gyntaf, cawn glywed mwy am y pwysau rhoddodd y mewnlifiad o ymwelwyr yn ystod haf y llynedd ar yr heddlu; mae’r tîm yn ceisio cyrraedd damwain beic modur, cipolwg ar yr ystafell reoli sy’n derbyn yr holl alwadau brys, a chawn weld sut mae’r Uned yn cydweithio â’r Uned Drôns i ddilyn drwgweithredwr sydd wedi dwyn car.
Un o’r heddweision eraill cawn ddilyn yw PC Dan Edwards, sydd wedi gweithio’n rhan o Uned Plismona’r Ffyrdd ers chwe blynedd: “Mor bell a fedra i gofio’n ôl – chwech i saith oed, plismon o’n i eisiau bod. Tydw i ddim yn blismon eistedd yn yr offis; dw i’n licio bod allan yna – dyna sy’n cadw fi fynd.”
■
Y Llinell Las, S4C, Dydd Mercher, 9yh chymorth pump cydawdur) ond dyw hyn ddim yn bosib i’r rhelyw, does bosib?
Ac oes ’na beryg o ladd creadigrwydd a menter wrth dynnu hawl awduron i bechu o dro i dro?
Diddorol gweld llawer o ddarllenwyr yn troi nôl at hen glasuron, neu lyfrau deifiol a dadleuol o’r gorffennol erbyn hyn, gan osgoi rhai o’r gweithiau sy’n cael eu noddi a’u gwthio o’r diwydiant celfyddydol.
Falle mai bach mwy o synnwyr cyffredin a thrafod call sydd ei angen.
A beth bynnag arall sydd i’w ddweud, fuodd gwahardd llyfrau erioed yn arwydd da, boed yn Almaen y gorffennol neu yn Rwsia ac America yr oes hon.
@lefigruffudd