Western Mail - Weekend

Her newydd i Beti a’i ‘Phobol’

-

DYW’r newyddiadu­rwraig chwedlonol Beti George ddim yn fenyw i wrthod her newydd.

Pan ddaeth y tîm tu ôl i’r opera sebon eiconig Pobol y Cwm ati yn holi a fyddai hi’n ystyried cymryd rhan yn y ddrama, ymddangosi­ad ‘cameo’ oedd Beti’n meddwl oedd ganddyn nhw mewn golwg.

Ond, cafodd Beti wahoddiad i ystyried rôl Eunice, mam ddychrynll­yd y cynghorydd dodji Ieuan Griffiths (Iestyn Jones).

“Odd e erioed wedi croesi fy meddwl i o gwbl bydden i’n cael rhan ar Pobol Y Cwm achos mae’n rhyw fath o eicon o gyfres,” meddai Beti sy’n ffan mawr o’r rhaglen. “Felly pan ddaethon nhw ataf fi yn holi a fyddai diddordeb gen i – roedd e ychydig o sioc i ddweud y gwir.

“Oni’n meddwl yn gyntaf mai rhyw ‘cameo’ byddai – bo fi mynd i holi rhywun achos ‘Beti a’i Phobl’ neu rywbeth fel ’na ynte? Ond na dyma nhw’n anfon manylion y cymeriad.

“Dw i bob amser yn hoffi cael rhyw fath o her. A do, dywedais i iawn, fe wnaf fi!

“Felly, dyna fel oedd hi! Er, nes i feddwl, pwy oedd wedi meddwl amdana i yn chwarae’r fath cymeriad! Ac o’n nhw wedi gweld rhyw debygrwydd rhwng y cymeriad a fi!?”

Mae Beti yn disgrifio Eunice fel “battleaxe.” “Mae hi’n rial hen battleaxe, Eunice, ac oni’n meddwl www mae rhywun wedi gweld tebygrwydd rhyngddi hi a fi!

“Mae Eunice yn un o hoelion wyth y gymdeithas. Hynny yw, roedd hi’n gynghorydd a nawr, wrth gwrs, mae Ieuan yn gynghorydd. Mae Ieuan druan o dan y fawd, a hi sy’n ei reoli fe. Ac mae un lein lle mae hi’n dweud wrtho ‘byddi di ddim yn gallu rhedeg bath hebddo i’. Felly dyna’r math o gymeriad yw hi.

Mae Beti yn adnabyddus iawn fel newyddiadu­rwraig a chyflwynyd­d rhaglenni fel Beti a’i Phobl ar radio Cymru a Newyddion ar S4C – ond ai dyma’r tro cyntaf iddi actio?

“Wnaeth ffrind i fi f ’atgoffa fy mod i wedi actio mewn drama yn y coleg blynyddoed­d maith, maith, maith yn ôl. Ond oni wedi anghofio popeth am hynny.”

■ Pobol y Cwm, S4C, Pob nos Fawrth - Iau, 8yh

gilydd ac wrth gwrs nawr, mae’n le i ni fel teulu.”

Dros y blynyddoed­d, mae Marian wedi sefydlu sawl busnes llwyddiann­us ac wedi ennill gwobr, Inspiratio­nal Woman of the Decade. Mae profiad Rob o’i waith fel peiriannyd­d sifil yn amhrisiadw­y i’r prosiect anferth ac mae ei sgiliau DIY yn cael ei brofi i’r eithaf.

Er maint y prosiect, bu’r holl beth yn gyfrinach am gyfnod.

“Pan bryno ni’r castell yn gyntaf oedd bach o sioc bod ni wedi llwyddo gwneud,” meddai Marian. “Wedyn o ni yn rili embarrasse­d, o ni eisiau cadw fe’n dawel. Fi’n cofio dweud, fel ni’n mynd i neud yn siŵr fod neb yn ffeindio mas am hwn? Oedd llais bach yn fy mhen yn dweud: ‘Pwy maen nhw’n meddwl ydy nhw’?”

Ond amhosib oedd cadw rhywbeth mor gyffrous yn dawel mewn pentref bach, fel nododd Catrin eu merch ieuengaf: “Dw i i ddim wedi dweud wrth

Y diweddaraf oedd y sioe i hybu Prydeindod yna rownd Caernarfon, Unboxed.

Mae ’na bobl o gwmpas Caernarfon methu credu faint wariwyd ar y sioe Frexitaidd o oleuadau llachar ar y Maes.

Faint oedd e? Miliwn? Cyfran go dda o’r £120m sy’n cael ei wario trwy Brydain, beth bynnag.

Tra fod cyfran helaeth o’r boblogaeth leol yn gynyddol ddibynnu ar fanciau bwyd, yn erbyn Brexit (ac wedi dioddef oherwydd Brexit), doedd hwn heb fynd lawr yn dda.

Roedd busnesau’n colli mas wrth i’r Maes gael ei gau a siopau’n cael gorchmynio­n i beidio gwerthu poteli gwydr.

Alla i ddim gweld fod llawer o bobl leol wedi elwa o ystyried y costau rhyfeddol (a byddai’n well petai nhw wedi ei wario ar glybiau fy ffrindiau yn yr ysgol, maen nhw wedi dod i fi a gofyn: ‘Catrin – ife ti sy’n berchen y castell?’ Pryd oedd Mam a Dad wedi dweud wrthym ni, o ni’n meddwl nag wyt ti fod yn royalty i wneud na? Wow!”

“Dim lot o bobol sy’n cael y cyfle i brynu castell, so ie fi’n hapus amdano fe,” ychwanegod­d ei chwaer Ffion.

Gyda dim ond llond llaw o gestyll Cymru mewn dwylo preifat, mae’r teulu yn gweithio yn agos gyda Cadw, y sefydliad sy’n gyfrifol am ddiogelu safleoedd hanesyddol Cymru, a sicrhau fod unrhyw ddatblygia­dau yn gweddu i’r safle.

A fydd y fenter yn llwyddiant ysgubol neu’n fethiant trychinebu­s i’r teulu? Caiff y cyfan ei ddatgelu ar Teulu’r Castell, pob nos Iau am 9yh ar S4C.

Teulu’r Castell, S4C, Dydd Iau, 9yh

ieuenctid fel ddwedodd un boi ifanc aeth i’w weld).

Stori arall weles i ddechrau’r wythnos hon oedd fod arian ychwanegol, llawer llai, wedi dod i hybu’r Gymraeg gan y Loteri Genedlaeth­ol.

Mewn stori yn Golwg roedd tri prosiect wedi derbyn nawdd, yn cynnwys £10,000 yn cael ei ddefnyddio i sicrhau “ardal les” yng ngŵyl Tafwyl.

Fyddech chi’n gallu cynnal gŵyl gyfan a chwrw am ddim am symiau fel ’na mewn ambell i ardal, gyda Bryn Fôn neu hyd yn oed Arfon Wyn yn canu. Mae £10,000 am ardal les yn swnio’n eitha lot i fi.

Beth ma’ nhw’n bwriadu ei wneud, rhoi headphones Dr Dre i bob unigolyn sydd am gael bach o lonydd o brysurdeb annioddefo­l Tafwyl? Ac ym mha iaith fydd y tawelwch yma?

 ?? ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom