Western Mail - Weekend

Lois ar daith i Ddal y Mellt

-

MAE’R actores o Ynys Môn, Lois Meleri-jones, yn ymddangos ar y sgrin yn gyson fel Tesni Parri, un o gymeriadau’r opera sebon, Pobol Y Cwm.

ond bydd nifer hefyd yn ei adnabod o gyfres ddrama ddiweddara­f S4C, Dal y Mellt.

Yn drosiad o nofel Iwan “Iwcs” Roberts, mae’r stori’n dilyn hynt a helynt criw annhebygol sy’n rhoi cynllun dial uchelgeisi­ol ar waith. Wrth i ddiwedd y gyfres agosáu, mae Lois yn trafod ei chymeriad Antonia a’r rhagolygon am ail gyfres.

“Antonia ydi’r bos,” meddai Lois. “Mae hi’n gymeriad cryf iawn sydd mor warchodol o’i chriw.”

Y criw dan sylw yw Carbo (Gwïon Morrisjone­s), Gronw (Dyfan Roberts) Mici Ffin (Mark Lewis Jones), Les (Graham Land), Dafydd Aldo (owen Arwyn) a Cidw (Ali Yassine).

“Mae hi’n byw yn annibynnol i ffwrdd o fferm y teulu, Bwlch y Gloch, ac yn gweithio mewn stablau yn Gaer. Ceffylau yw ei bywyd. Mae hi’n awdurdodol, cryf a hyderus. Hi ydi’r unig ferch yng nghanol y criw, yr un sy’n rheoli’r cyfan. ond eto mae ’na haenau iddi, mae hi’n gallu bod yn lot o hwyl hefyd.

“Mae mor braf portreadu cymeriad fel hyn, dynes gref a phwerus, sy’n gwybod beth mae hi isio. Mae’n beth gathartig chwarae’r rhan a chael yr hyder ’na. Dw i’n gallu bod yn orbryderus ar adegau felly mae’n neis chwarae rhywun fel hyn. Mi fasw ni’n licio bod mwy fel Antonia weithiau.

“o ni’n gwybod yn syth ei bod hi’n arbennig. Mi wnes i brynu’r llyfr ar ôl cael gwahoddiad am glyweliad am y rhan.

“oedd rhaid i fi stopio darllen achos o ni wir yn dychmygu fy hun yn chwarae’r rhan – o ni ddim eisiau cael fy siomi.”

Gwelwn hefyd ochr bregus y cymeriad, wrth i berthynas ddechrau ddatblygu rhwng Antonia a Carbo.

“Ar y dechrau mae hi’n llythrenno­l yn ei reoli o. Mae hi’n disgyn amdano fo achos mae hi’n dod i’w ’nabod o. Hi ydi’r un sy’n dweud na achos mae hi wedi arfer rheoli pobl eraill, a hi ei hun ac mae hi’n llwyddo rheoli ei theimladau nes mae rhywbeth yn digwydd iddi hi ar ddiwedd y gyfres.

“Lle fydd y berthynas yn mynd wedyn? Pwy a ŵyr? Dw i’n gofyn i Iwcs trwy’r amser, a dal heb gael ateb - ond yn sicr mae’r cyfan yn hollol agored am ail gyfres.”

Dal y Mellt, S4C, yfory, 9yh

cryn lwyddiant yn ddiweddar gan gynnwys curo Cwpan y Byd 2019.

Mae’r profiad o weithio ar y rhaglen wedi bod yn un arbennig iawn i Kris Hughes wrth iddo sylweddoli cymaint o lefydd yng Nghymru sydd â chymuned glos, gref: “Roedd hi mor braf cael mynd i lefydd fel Nefyn, Castellnew­ydd Emlyn a Threorci, lle’r oedd ysbryd o gymuned yno – roedd pobl yn nabod ei gilydd, yn cymdeithas­u efo’i gilydd, yn rhannu bywydau efo pobl eraill, ac roedd ymdeimlad bod cynhesrwyd­d yn y gymuned.

“Roedden ni’n cael straeon weithiau oedd yn reit drwm – straeon am hunanladdi­ad, anorexia, cancr a phethau felly – ond er bod y sgyrsiau weithiau’n ddwys, roedden nhw’n ysgafn hefyd, achos roedd y bobl yma wedi dod dros beth oedd yn bod neu wedi cael cyfle i boen setlo a ffeindio cartref ynddyn nhw rywsut.

Morgan yn sôn am y ffilm yn ei hunangofia­nt newydd – mae’n rhyfeddol mor uchelgeisi­ol oedd y prosiect, yn ddwyieitho­g, ac fel ddaeth yn ffasiwn wedyn, ceisiwyd ei werthu’n fyd-eang. Gwariwyd hanner miliwn arni (oedd yn dipyn bryd hynny), a chael actorion o Loegr (nad oedd yn gallu ynganu Cymraeg), ond diflannu i’r niwl wnaeth y ffilm, fel Owain ei hun.

Ac yna ma gyda chi Tipit, cyfres wnaeth ysgogi Gary Slaymaker i wisgo crys-t i brotestio mewn noson gyda rhai o fawrion y sianel, na wnaeth les i’w yrfa mae’n ymddangos. Gwariwyd miliwn o bunnoedd ar set lle roedd y chwaraewyr yn cuddio pethau yn eu llaw. A darlledwyd dwy gyfres. Rhyfeddol.

“Yn Amlwch, wnaethon ni siarad efo dynes oedd wedi colli’i mab yn sgil hunanladdi­ad, ond beth oedd yn hyfryd oedd y ffaith bod y gymuned wedi’i chefnogi hi, ac roedd llawer ohonyn nhw’n eistedd y tu allan i’r garafán tra’r oedd hi tu fewn yn sgwrsio efo fi a Tara.

“Dw i’n meddwl wneith pobl werthfawro­gi’r rhaglen, achos dw i’n meddwl bod pobl yn hoff iawn o wylio pobl gyffredin ar y teledu, achos bod o’n real, a hefyd maen nhw’n gallu cydymdeiml­o. Mae ’na bellter rhwng pobl a selebs. Mae’n rhaglen gynnes, ac yn dangos bod ’na obaith i gymunedau, jest bod ni’n cymryd yr amser i annog a magu cymuned.”

Yn ogystal ag Amlwch, bydd Radio Fa’ma’n ymweld â’r Rhondda, Dyffryn Nantlle, Nefyn, Castell Newydd Emlyn a Rhuthun.

Radio Fa’ma, S4C, Dydd Mawrth, 9yh

Mae arian yn fwy tynn erbyn hyn, wrth gwrs, ond roedd hi’n wych clywed fod y sianel wedi comisiynu ffilm newydd am Gwynfor Evans, a fydd yn cael ei darlledu yn y gwanwyn.

Ond doedd hi ddim syndod, ond yn eironig, ysywaeth, weld mai pinacl noson ddathlu’r 40 oedd ailddarlle­diad o hen raglen ddogfen am Gwynfor, ac mai’r prif raglenni oedd ryw gala gomedi a chyfres newydd sy’n gopi o raglen rad am wylio pobl yn gwylio teledu.

Ydi, mae’n eitha amlwg fod y gwario wedi tynhau. Ac i fynd nôl at lyfr Sharon Morgan, mae’n deg nodi fod S4C yn cynnal gwasanaeth cyflawn ar gost dwy gyfres o The Crown, sydd yn dipyn o her.

Ond weithiau mae angen mwy o ddychymyg,

 ?? ??
 ?? ?? Publicity picture. S4C articles pix for Maga. Radio_fama_2022s4c_7991
Publicity picture. S4C articles pix for Maga. Radio_fama_2022s4c_7991

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom