Western Mail - Weekend

Y silff lyfrau

- Y DEFODAU

Rebecca Roberts

(Honno. £10.99)

Petawn yn dweud mai cyfrol yw hon sy’n disgrifio cyfres o angladdau, defodau enwi plant a phriodasau, go brin y byddai neb yn rhuthro i’w darllen. Ond, ac mae’n ond mawr iawn, mae llawer iawn mwy i’r gyfrol na hynny. Cyfrwng yw’r amrywiol ddefodau i adrodd hanes y prif gymeriad, Gwawr Taylor a’i chysylltia­dau amrywiol.

Gweinydd dyneiddiol yw Gwawr yn ei gwaith bob dydd a defnyddiwy­d ffurf llyfr nodiadau yn strwythur i’r cyfan. Cawn ei dilyn trwy’r broses o greu cysylltiad â theuluoedd, nodi eu dymuniadau a chyflwyno portread o’r bobl y maent am eu coffau, eu henwi neu eu huno mewn priodas.

O ystyried swydd Gwawr rydym, wrth gwrs, yn dod ar draws teuluoedd sydd yn gorfod mynd trwy gyfnodau tywyll iawn, a gan ein bod yn gwybod bod Rebecca ei hun yn gwneud yr un swydd â Gwawr rydym mewn dwylo diogel. Er gwaethaf y tristwch mae rhywbeth dyrchafol am ddathlu bywydau pobl a chofio eu cyfraniad a’u cariad at eu teulu a’u cymdeithas a chawn drafodaeth ddifyr am safbwyntia­u gwahanol am fywyd a marwolaeth a chredoau pobl. Eto, dylwn esbonio, nid trafodaeth hirfaith, ddiflas, chwaith, ond trafod y pynciau fel y maen nhw’n codi’n naturiol yn y stori.

Un o nodweddion amlycaf y nofel yw cryfder y cymeriadau y cawn y fraint o ddod i’w hadnabod, nid cymeriadau un dimensiwn, da neu ddrwg ydyn nhw, cawn ddod i’w hadnabod yn drylwyr, eu rhinweddau a’u beiau hefyd. Maen nhw’n gymeriadau crwn a chawn weld datblygiad sawl un o’r cymeriadau trwy gydol y nofel. Er bod lle i gasáu ambell gymeriad, mae’r awdur yn gofalu ein bod yn cael gwybod y gall fod ochr arall i’r stori bob tro.

Gallaf eich sicrhau y bydd rhannau o’r nofel yn mynd at eich calon ac mae hynny’n deillio o allu’r awdur i greu darlun clir o amgylchiad­au a chymeriada­u. Peidiwch â disgwyl disgrifiad­au blodeuog, nid ’sgwennu i dynnu sylw ato fo ei hun sydd yma, ond ’sgwennu cynnil, i bwrpas.

Rhan o ddawn arbennig yr awdur yw dadlennu’r stori ganolog, stori Gwawr, yn raddol trwy gyfrwng y gwahanol seremonïau y mae’n cael gweinyddu ynddynt. Ond nid seremonïau yn unig sydd yma chwaith, pan fydd angen hynny, cawn ambell bennod sy’n benodol i ddadlennu elfen o’r stori neu i roi gwell dealltwria­eth i ni o’r hyn sydd yn digwydd, ac wedi digwydd yn y gorffennol.

Yn gryno, dyma gyfrol sy’n gafael o’r dechrau, yn ffres, ac yn ein harwain yn gelfydd trwy gyfnodau tywyllaf a goleuaf bywyd.

 ?? ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom