Western Mail - Weekend

Edrych ‘Dan Do’ cartrefi hyfryd

-

MAE’R cynllunydd tai Mandy Watkins a’r cyflwynydd Aled Samuel yn teithio ar hyd a lled y wlad i ymweld â rhai o dai mwyaf chwaethus, diddorol ac unigryw Cymru mewn cyfres newydd o Dan Do ar S4C.

I ddechrau’r gyfres mae Mandy ac Aled yn ymweld â thŷ ffrâm dderw sy’n gartref unigryw ar Ynys Môn; cartref Edwardaidd â dylanwad Ffrengig yn Llanelli a byngalo o’r 1920au sydd wedi cael estyniad rhyfeddol yn Y Fenni.

Mae "Cynefin", sef cartref Julie Schofield a’i gŵr Jonathan ar Ynys Môn, yn creu argraff fawr ar Aled a Mandy.

“Tŷ ffrâm bren derw ydy ‘Cynefin’ lle mae’r coed yn allweddol yn yr adeiladwai­th yn ogystal â’r edrychiad. Mae’n gartref go unigryw tu fewn a thu fas,” meddai Aled.

Wnaeth Julie a Jonathan, sy’n wreiddiol o Ynys Môn, adeiladu Cynefin o’r newydd ar ôl symud yn ôl i’r ardal o’r Peak District. Ac er bod y tŷ yn un newydd mae’r cwpl wedi defnyddio technegau a deunydd traddodiad­ol yn yr adeiladwai­th.

Meddai Julie: “Penderfyno­m ni fynd am y ffrâm dderw oherwydd mae o’n llawn cymeriad yn fy marn i ac yn rhan o strwythur y tŷ. Mae o’n onest – chi’n cael gweld beth ydy’r tŷ wrth gerdded i mewn. Mae’n ddefnydd naturiol ac mae o wedi newid lot ers i ni symud mewn. Chi’n gallu gweld bod o wedi hollti yn ambell i le ac mae o’n troi a symud – mae hynny’n apelio.

“Y golau yw’r peth dw i’n mwynhau mwyaf. Dw i’n licio edrych allan a theimlo fy mod i’n eistedd tu allan hyd yn oed pan dw i’n eistedd tu mewn.”

Mae Mandy yn holi Julie beth sydd yn ei hysbrydoli hi o ran steil y tŷ.

“Sai’n gwybod beth yw steil fi rili,” meddai Julie. “Fi’n gwybod be’ dw i’n licio – pethau naturiol a reit clasurol, a lliwiau distaw gydag ambell i bop o liw. Mae pethau wedi eu casglu dros y blynyddoed­d a dw i’n disgwyl beth sy’n mynd i le.

“Da ni’n dau yn teimlo’n lwcus iawn bod yma. Mae’r tŷ ei hun yn meddwl lot i ni. Ond cael dod nôl adra i fyw... mae’n neud imi deimlo reit emosiynol.”

Ymunwch â Mandy ac Aled a dewch i gael pip tu mewn i rai o dai mwyaf diddorol Cymru yn Dan Do sy’n dechrau ar S4C ar nos Fercher.

Dan Do, S4C, Dydd Mercher, 8.25yh

 ?? ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom