Western Mail - Weekend

Rhai o Cymru

-

un o’r tri thylwyth teg yn Northop Hall.”

“Bues i’n gweithio fel Rheolwr Peirianneg ac Iechyd a Diogelwch am sawl blwyddyn yn y diwydianna­u petrocemeg­ol ac aerospace. Mae panto yn fath o ddihangfa – dydych chi ddim yn meddwl am unrhyw beth arall, gallwch chi ymgolli yn llwyr.”

Mae Huw yn ymddangos gyda’i frodyr Mike a Stephen – neu’r Brodyr Brynaman. Ond oeddech chi’n gwybod mai dim ond y brawd ieuengaf, Stephen, sy’n dal i fyw ym Mrynaman?

“Rydyn ni’n byw mewn gwahanol rannau o Gymru. Dwi fyny i’r gogledd yn Yr Wyddgrug ac mae Mike yn y de yng Nghaerdydd’’ meddai Huw. “Wnaethon ni benderfynu dod at ein gilydd i ffilmio yn nhw Stephen, gan fod Brynaman yn weddol ganolig. Y tro cyntaf i ni ffilmio, wnes i stopio ar y ffordd i gael doughnuts. Mae Mike wedi addo prynu’r custard creams yr wythnos hon.

“Er ein bod ni’n cefnogi gwahanol dimau pêl-droed; da ni’n dod ymlaen yn dda - y rhan fwyaf o’r amser!” meddai Huw, sy’n cefnogi Wrecsam. Mae Mike yn ddilynwr brwd o’r Bluebirds, tîm Caerdydd, tra bod Stephen yn cefnogi Abertawe.

Gwyliwch Gogglebocs Cymru nos Fercher am 9.00 ar S4C / BBC iplayer. Bydd y gyfres ar y bocs trwy gydol mis Tachwedd a mis Ionawr.

Gogglebocs Cymru, S4C, Dydd Mercher, 9pm

siopau cadwyn mawr yn gwneud ymdrech i arddangos cynnyrch Cymru, a ninnau wastad wedi arfer griddfan a chwyno am y baneri Lloegr ers degawdau. Wedyn cael sgwrs gyda staff JD Sports am eu rhwystredi­gaeth fod crysau Cymru wedi gwerthu mas, cyn prynu baneri Cymru yn Smiths rhag i rheiny werthu mas.

Ond i ddod nôl at Qatar, mae dal yn gyfan gwbl anghredadw­y fod anialwch o le, llai poblog na Chymru yn cynnal y peth. Mae e fel tase Cymru’n cynnal rownd derfynol y Super Bowl.

Ond falle nad yw’n anghredadw­y fod modd i unrhyw un brynu unrhyw beth yn yr oes hon. Ac os ydyn ni wedi ennill yn barod, mae werth gwrando ar How To Win The World Cup ar Radio 4 i glywed sut aethon nhw ati i ennill eu

 ?? ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom