Cofio’r aberth a wnaed i sefydlu S4C
MAE ffilm Y Sŵn wedi creu cryn fwrlwm dros yr wythnosau diwethaf wrth dynnu pobl at ei gilydd a llenwi seddi sinemâu ar hyd a lled Cymru – a thu hwnt. Mae’r ffilm fentrus, egnïol sydd wedi’i hysgrifennu gan roger Williams a’i chyfarwyddo gan Lee Haven Jones yn adrodd hanes un o ddigwyddiadau pwysig hanes Cymru yn yr 20fed ganrif, sef safiad Gwynfor Evans dros sefydlu sianel deledu Gymraeg a’i fygythiad i ymprydio hyd farwolaeth i sicrhau hynny.
Yn ogystal â derbyn llu o adolygiadau disglair, mae’r ffilm wedi sbarduno sgyrsiau am ddylanwad protestio, dyfodol darlledu yng Nghymru a thynged yr iaith Gymraeg.
Bydd cyfle arall i’w gwylio ar y sianel sy’n ganolog i’w stori wrth i S4C ei darlledu ar nos.
Wedi’i gosod yn 1979 a throad yr 1980au, mae Y Sŵn yn ffilm gyfnod sydd wedi’i hysbrydoli gan y digwyddiadau a arweiniodd at sefydliad S4C. Mae llywodraeth Margaret Thatcher newydd ddod i rym gyda maniffesto oedd yn rhoi addewid y byddai’n sefydlu sianel deledu Gymraeg ei hiaith. Wedi ychydig fisoedd wrth y llyw, fe aeth yr Ysgrifennydd Cartref, William Whitelaw yn ôl ar ei air gan sbarduno protestiadau drwy Gymru. Wrth galon y stori mae safiad eithafol y Pleidiwr, yr heddychwr a’r cenedlaetholwr Gwynfor Evans – a oedd newydd golli ei sedd i’r Blaid Lafur yn etholiad 1979 – i fygwth llwgu i farwolaeth pe na bai’r llywodraeth yn newid ei meddwl.
Mae’r stori’n canolbwyntio ar dair carfan – gweision sifil yn y Swyddfa Gymreig, cenedlaetholwyr Cymreig ac aelodau o lywodraeth gyntaf Margaret Thatcher, ac mae’r golygfeydd dramatig yn plethu gyda chlipiau archif o eitemau newyddion, protestiadau a chyfweliadau o’r cyfnod.
Ymysg y cast sy’n dod â’r cwbl yn fyw mae amryw o wynebau sy’n hen gyfarwydd â bod ar y sgrîn – rhodri Evan (Gwynfor Evans), Eiry Thomas (rhiannon, gwraig Gwynfor), Mark Lewis Jones (Willie Whitelaw), rhodri Meilir (Nicholas Edwards, dirprwy arweinydd y Ceidwadwyr o dan Margaret Thatcher), Arwel Gruffydd (y Ceidwadwr Wyn roberts), Dafydd Emyr (y Llafurwr Cledwyn Hughes), Sion Eifion (Dafydd Elis-thomas), richard Elfyn (Syr Goronwy Daniels), a Sian reese-williams (Margaret Thatcher).
Wrth i’r stori blethu ffaith a ffuglen, gwelwn Ceri Samuel – menyw ifanc sy’n danbaid dros ei Chymreictod sydd newydd gychwyn gwaith yn y Swyddfa Gymreig. Cawn ddilyn Ceri a’i
chydweithwyr wrth iddynt ddod i delerau â phenderfyniad Whitelaw ac wrth iddynt ymateb i’r protestiadau ddaeth yn sgîl y newyddion. yn chwarae rhan Ceri mae Lily Beau – cantores sydd wedi mentro i dir actio’n weddol ddiweddar.
“Mae y Sŵn yn ffilm liwgar, hiraethus a gwleidyddol” meddai Lily. “O’dd gen i addysg eitha’ syml o’r hyn oedd wedi digwydd, ond doedd hi ddim tan i mi neud y ffilm nes i mi weld faint o angerdd oedd y tu ôl i’r ymgyrch, a bod pobl rili wedi brwydro dros yr iaith Gymraeg. Rwyt ti’n ei chymryd yn ganiataol weithiau, oherwydd mae’n dod o’r ysgol nawr. Mae’r ffaith fod pobl wedi gwir frwydro dros yr hyn roedden nhw’n ei gredu yn ysbrydoliaeth lwyr.”
y syniad o adrodd pennod o hanes sy’n weddol anghyfarwydd i lawer o Gymry ifanc heddiw oedd y sbardun i Roger Williams, awdur y ddrama:
“Dw i’n mwynhau gwylio dramâu gan bobl fel James Graham – ma’ fe’n gwneud dramâu hanes gwleidyddol yn benodol, ond mae ei waith e’n ymwneud â phobl go iawn a digwyddiadau go iawn sy’ ’di digwydd yn eitha’ diweddar. A dw i ’di meddwl ers sbel pam bod ni ddim yn mynd ar ôl yr hanesion yna.
“Roedd S4C yn dathlu ei phen-blwydd yn 40, a dyma fi â diddordeb yn fwy na dim byd arall ynglŷn â’r penderfyniadau a gafodd eu gwneud yn San Steffan. Fel Cymro Cymraeg ro’n i’n ymwybodol o stori Gwynfor a Chymdeithas yr Iaith, ond ddim yn gwybod pam bod y Llywodraeth wedi bod mor gyndyn i roi sianel deledu, felly dyna lle ddechreuodd y daith i fi’n greadigol.
“Mae’n ddiddorol bod cymaint o bobl o dan yr oedran o 45 erbyn hyn ddim yn ymwybodol o’r stori, neu ddim yn gwybod llawer amdani, felly mae’n bwysig bod ni’n atgoffa pobl am yr aberth a wnaethpwyd, yn enwedig dw i’n meddwl aberth yr aelodau ifanc o Gymdeithas yr Iaith o’dd wedi bod yn brwydro ers dros ddegawd i sicrhau sianel deledu Gymraeg.
“Mae’r stori’n un sydd ddim wedi cael digon o sylw dros y blynyddoedd. Felly dod â’r stori i gynulleidfa newydd a hefyd gwneud iddyn nhw sylweddoli fod pobl wedi brwydro dros y sianel – i beidio cymryd yr hyn nathon nhw ennill yn ganiataol, a hefyd, gwneud i bobl feddwl am y Gymraeg, ble ry’n ni heddiw, beth yw natur y sianel sydd gyda ni, y gwasanaeth, y platfformau sydd gyda ni yn y Gymraeg, y ffordd mae’r sianel yn cael ei hariannu.”
■
Y Sŵn, S4C, yfory, 9yh
backdrop for this new series, which sees 15 celebrities taking it in turns to check into a Victorian villa.
Host Sharon Mcilveen, Michelin-star chef Alex Greene, gardener Mary Anne Farenden and Rory O’kane, the B&B driver, will be helping their famous guests to unwind, sample some local produce, explore their surroundings and try out activities including horseriding and paddle-boarding.
The series begins with Dragon’s Den star Deborah Meaden, who will face a challenge when she arrives – cooking a meal for the first time in her life.
Jules Hudson are back at Cannon Hall to celebrate the UK’S farmers during spring as they rush to bring the new life into the world.
It is a springtime packed with royal visits, famous faces helping out on the farm and an exciting new mission to help the nation give back to the farmers that kept them fed during the pandemic.
The series continues tomorrow and all this week and next.
Stacey Dooley: Ready For War? Wednesday, BBC Three, 9pm
Stacey follows a group of Ukrainian civilians as they arrive in the UK to begin five weeks of intensive army training.
With exclusive and unprecedented access to the British Army’s training mission, the