Western Mail - Weekend

Cip tu ôl i ddrysau Sain Ffagan

-

BYDD cyfle i gael cip arall ar rai o gorneli cudd Amgueddfa Werin Cymru yn ail bennod y gyfres Sain Ffagan ar S4C nos Ferche.

Mae Sain Ffagan yn gartref i ryw 50 o adeiladau hanesyddol mewn 18 erw o erddi godidog. Un o’r rhai mwyaf eiconig yw’r Castell. Un o’r tîm sy’n gofalu am y Castell yw Colin Murphy, sydd wedi bod yn dod i Sain Ffagan ers oedd e’n blentyn.

“Doedden i ddim yn meddwl yr adeg yna bydden i’n gweithio yma ond dw i’n caru bob dydd a bod yn onest. Dw i’n dwlu bod yma,” meddai Colin, sydd wrth ei fodd yn siarad efo’r cyhoedd a rhannu gwybodaeth efo nhw am hanesion unigryw’r safle.

Mae’r amgueddfa yn denu mwy na 500,000 o ymwelwyr bob blwyddyn, a llawer iawn ohonyn nhw’n dod i’r Castell. “y nifer fwya o bobl gwrddes i mewn un diwrnod oedd 4,500!” meddai Colin.

yr adeilad diweddaraf i gael ei godi yn Sain Fagan yw Gwesty’r Vulcan, hen dafarn adnabyddus o ardal ddiwydiann­ol yng Nghaerdydd. Cafodd ei chofrestru fel tafarn yn 1853 a’i dymchwel yn 2012.

Fe ddechreuod­d y gwaith o ail-adeiladu’r dafarn yn Sain Ffagan yn 2019 ac mae croen allanol yr adeilad bron yn gyflawn. yn y bennod hon, cawn gwrdd â rhai o’r adeiladwyr sy’n gyfrifol am atgyfodi’r dafarn.

“Mae’r gwaith yn ddiddorol ac yn wahanol, dw i rili yn enjoio fe,” meddai’r saer maen Mathew Roberts.

Ond weithiau, “nid dim ond yr adeiladau sy’n bwysig, ond y pethau tu mewn hefyd” – dyna farn y gwehydd Dewi Jones sy’n gweithio ym Melin Wlân Esgair Moel, un o’r adeiladau cyntaf i gael eu codi yn Sain Ffagan ’nôl yn 1952. Dyma le mae’r peiriant nyddu gwlân, y spinning jack, a gafodd ei wneud tua 1830. Credir mai dyma’r unig un o’r cyfnod sydd yn dal i weithio ac sy’n cael ei ddefnyddio.

“Mae’n waith cyhyrog ond yn ymarfer corff da. Mae’n bleser gweithio efo’r hen beiriannau,” meddai Dewi.

Er mai amgueddfa awyr agored ydy Sain Ffagan, ar lawr top yr adeilad mae tair oriel sy’n llawn dogfennau, delweddau, gwrthrycha­u, archif sain ac arddangosf­eydd sy’n newid yn gyson. yn y bennod hon, mae Elen Philips, Prif Guradur Hanes Cyfoes a Chymdeitha­sol, yn prysur roi arddangosf­a at ei gilydd sy’n dathlu amrywiaeth y Wal Goch, sef y ffans ffyddlon sy’n dilyn tîmau pêl-droed Cymru.

Sain Ffagan, S4C, Dydd Mercher, 8.25yh

more. I’m fascinated. Who did the cooking at home? Who taught you to cook?’ I love that and it’s different from wherever around the globe.”

“That’s the thing about the programme, you do gauge different personalit­ies and there will be people at home who really relate to every single person,” says John.

“It also goes to show the broad range of cuisines in Britain right now – the ability for everybody to be really proud of their heritage is brilliant.”

The Australian-british chef and presenter recalls a new challenge this year, “whereby we got them to use things that they would normally throw away”.

“There was one dish that we were both so blown away with, which has got to do with a stale croissant which became the most extraordin­ary and beautiful dessert.

 ?? ??
 ?? ?? > Recipe for success... judges John Torode and Gregg Wallace in the Masterchef pantry and, below left, 2022 champion Eddie Scott. Right, finalists Pookie Tredell and Radha Kaushal-bolland
> Recipe for success... judges John Torode and Gregg Wallace in the Masterchef pantry and, below left, 2022 champion Eddie Scott. Right, finalists Pookie Tredell and Radha Kaushal-bolland

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom