Western Mail - Weekend

Jason yn mynd o’r Cae Ras i’r Azteca

-

POB wythnos, mae miliynau o bobol ar draws y byd yn dilyn yr un ddefod o ymweld â stadiwm i wylio eu tîm. Ennill neu golli, mae’n brofiad unigryw sy’n rhan annatod o’u bywydau.

Mae’r gyfres newydd ar S4C, Stadiymau’r Byd gyda Jason Mohammad, wedi bod yn ymweld â rhai o stadiymau a meysydd chwarae mwyaf eiconig y byd, ac mae’r bennod olaf, ar S4C ar nos Iau, yn rhoi cipolwg i ni ar brofiad diwrnod gêm yn rhai ohonyn nhw.

Y stadiwm cartref y tro hwn yw’r Cae Ras, stadiwm ryngwladol hynaf yn y byd, a chartref clwb pêl-droed Wrecsam ers 1864.

Mae’r stadiwm a’r clwb wedi derbyn lot o sylw yn y ddwy flynedd ddiwethaf ar ôl i ddau seren Hollywood, Ryan Reynolds a Rob Mcelhenney ei brynu. Collodd CPD Wrecsam ei le yn y gynghrair bêl-droed yn 2008, ac ers hynny mae’r tîm wedi bod yn brwydro i ennill dyrchafiad o’r Gynghrair Genedlaeth­ol. Diolch i fuddsoddia­d y ddau actor, mae’r freuddwyd yma yn dechrau edrych o fewn gafael.

Er bod y tymor pêl-droed bellach yn tynnu tuag at ei derfyn, mi aeth Jason i ymweld â’r stadiwm nôl ar ddechrau’r tymor, i’r gêm ryfeddol yn erbyn Torquay United, lle sgoriodd y tîm cartref chwe gôl – eu buddugolia­eth mwyaf o’r tymor hyd yma. Yn gwmni i Jason yn y stand mae Thomas Lewis, neu Tomi Caws i’w ffrindiau, cefnogwr oes ac ysgrifennw­r pêl-droed gyda North Wales Live.

Y tu allan i dafarn enwog The Turf, mae’n rhyfeddu at y newid sydd eisoes ar droed, a’r sylw mae’r clwb yn ei dderbyn ar draws y byd:

“Mae’n teimlo’n weird, i weld pobl ar Twitter a Facebook o Milwaukee, Chicago, Los Angeles yn siarad am Wrecsam, yn siarad am Paul Mullin, am Jordan Davies. Mae’n amser sbesial i fod yn gefnogwr Wrecsam.”

Mae Jason hefyd yn teithio i Ddinas Mecsico i wireddu breuddwyd o wylio gêm yn stadiwm fyd-enwog yr Azteca. Yn cadw cwmni iddo mae Elis Williams, yn wreiddiol o Gaerdydd ond sydd bellach wedi ymgartrefu yn y ddinas. Mae’r ddau yn mwynhau tacos heb eu hail yn un o hoff taquerias Elis, cyn mynd yn eu blaenau i’r stadiwm am wledd o bêl-droed rhwng timau Club America a Puebla – gornest leol, er bod taith dwy awr yn gwahanu’r ddau dîm.

Mae Jason hefyd wedi’i gyfareddu gan y lle hanesyddol a’i awyrgylch:

“1986 – Maradona draw fan yna – dw i ddim yn gallu credu fy mod i yn yr un stadiwm! A 1970 hefyd – yr hen dîm Brasil – Pelé a’r hanes i gyd!”

■ Stadiymau’r Byd gyda Jason Mohammad, S4C, Dydd Iau, 9yh

 ?? ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom