Y silff lyfrau
Eirwyn George
(Eirwyn George, £7.50)
Ddiwedd y llynedd cyhoeddwyd Brethyn Gwlad, llyfr diweddaraf y Prifardd Eirwyn George. Yn y gyfrol ceir nifer o gerddi newydd a darnau amrywiol o ryddiaith, a’r rhan fwyaf ohonynt yn ymwneud â lleoliadau a phobl ei filltir sgwâr.
Mae Eirwyn yn awdur toreithiog a’i adnabyddiaeth o fro ei febyd, ei chymeriadau a’i hanes yn ddihafal ac yn ysbrydoliaeth i’w waith. Ac nid yw’r gyfrol hon yn eithriad.
Ceir cerddi cynnes o werthfawrogiad i nifer o unigolion a wnaeth, a rhai yn dal i wneud, gyfraniad pwysig i’r ardal. Fe ŵyr Eirwyn yn dda, er prydferthed ei sir enedigol, am yr angen am bobl i ddiogelu ein gwerthoedd gorau os yw’n cymdogaeth i barhau yn gymdeithas wâr.
Fel mae Eirwyn yn crybwyll yn ei ragair, mae rhai o’r cerddi yn deillio o gais i gyfansoddi cerddi i unigolion “yn ymwneud â rhyw garreg filltir bwysig yn eu gyrfa”, ac yntau’n ei hystyried yn fraint i gyflawni swydd y bardd gwlad. Wrth wneud, mae hefyd yn cyflawni gwaith hanesydd lleol; nid yn unig maent yn gerddi hyfryd i’w darllen ond maent hefyd yn gofnod hanesyddol o weithgaredd bro sydd yn newid yn gyflym.
Yn ei gerddi, mae Eirwyn yn cyfeirio at nifer fu’n braenaru’r tir. Does ond gobeithio y bydd y tir a fraenarwyd yn cael ei ddiogelu gennym, gan sicrhau y bydd y cynaeafu yn parhau yn y bröydd hyn.
Mae’r amrywiaeth eang o fesurau a ddefnyddir gan Eirwyn yn ychwanegu at fwynhad y gyfrol. Ceir yma ganu rhydd a chaeth: y pennill telyn a’r englyn, y soned a phenillion mydr ac odl. Yn ogystal, ceir cerdd ar fesur cynganeddol newydd, “Magl” (hunangofiant magl mewn amgueddfa) a enillodd wobr iddo yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 2004 gyda chlod mawr y beirniad Donald Evans.
Mae yma benillion ar y thema “Amser”, golwg wedyn ar rai o goelion ac ofergoelion yr ardal dan y pennawd “Credwch neu Beidio”, ac yma ceir un o’m ffefrynnau sef “Castiau’r Tywydd”: trwy gyfrwng nodiadau esboniadol a phenillion ffraeth mae Eirwyn yn crynhoi nifer o arwyddion tywydd fydd yn siŵr o apelio at y darllenydd.
Rhaid imi gyfaddef, nid oeddwn yn siŵr ar y dechrau beth fyddai fy ymateb i’r cyfuniad o’r cerddi a’r llenyddiaeth yn y gyfrol. Roedd fy amheuon yn gwbl ddi-sail a chefais flas anghyffredin ar yr adran hon wrth i’r erthyglau a’r ysgrifau ddilyn ei gilydd yn gwbl naturiol, gan greu cyfanwaith cartrefol a difyr. Diolch, Eirwyn, am gyfrol hardd arall a fydd wrth fodd pob un sy’n caru ei iaith a’i fro.
■ Rachel James
Crynodeb o adolygiad oddi ar www.gwales. com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru