Western Mail - Weekend

Y Parch sydd eisiau bod yn iachach

-

MAE gweinidog sy’n un o arweinwyr y gyfres FFIT Cymru yn dweud fod y profiad o fod ar y rhaglen wedi ei alluogi i agor y drysau i fywyd gwell, iachach. Yn wreiddiol o Gaernarfon, mae’r Parchedig Dylan Parry bellach yn gwasanaeth­u ardal Pen-y-bont ar Ogwr. Mae e’n teimlo bod y gefnogaeth mae e wedi’i gael gan ei ofalaeth yn amhrisiadw­y i helpu i gyrraedd ei nod o golli pwysau. Ond mae bwyta’n iach a gwneud mwy o ymarfer corff yn ymestyn ymhell tu hwnt i’r glorian.

Dyma fynd ati i ofyn ychydig iddo am ei brofiadau hyd yma o geisio newid hen arferion gwael er mwyn byw yn iachach:

Sut wyt ti wedi mwynhau’r daith FFIT Cymru dros yr wythnosau cyntaf hyn?

I gychwyn, do’n i ddim yn meddwl byddwn i’n medru’i neud o gwbl – ro’n i’n gweld cymaint o’dd raid i mi neud o ran y bwyd a ffitrwydd hefyd, ond dwi’n dechrau mwynhau o. Dw i wedi cwympo mewn cariad efo coginio eto – trio pethau newydd, a dw i’n gweld sut mae coginio pethau’n iawn yn gallu rhoi egni i ti a helpu dy ffitrwydd wedyn.

Mae gen i fwy o egni yn y gwaith ac mae’r ffitrwydd wedi gwella o fewn pythefnos. Mae’n anhygoel. Dw i ’di dechrau rhedeg hefyd; mae bob dim yn cryfhau a dw i’n gweld newid.

Dw i’m yn un sy’n rhannu’n emosiynau’n dda iawn, a dw i’n meddwl bod natur fy ngwaith wedi fy arwain i mi fod felly. Mae dal angen rhyw wal fach i fod yno er mwyn bod yn broffesiyn­ol, ond dw i’n fwy agored o ran fy nheimladau a’n emosiynau i fi’n hun. Ro’n i wedi bod yn twyllo’n hun – hynny yw, dweud fod bob dim yn iawn pan doedd o ddim. Be o’n i’n neud wedyn oedd mynd ati i fwyta, ac roedd hyna’n mynd allan o reolaeth. Os dw i wedi cael diwrnod anodd neu emosiynol, mae mynd allan i gerdded yn gwneud byd o les i dy iechyd meddwl. Mae’r holl becyn mae FFIT Cymru’n ei gynnig rhwng dy iechyd meddwl, bwyta’n iach a hefyd ymarfer corff yn priodi’r tri peth yna efo’i gilydd, ac mae o fel ryw allwedd aur – ti’n agor drws i fywyd gwell. A dw i wedi dechrau

agor y drysau ’ma a fydda i’n parhau i agor y drysau tan dw i’n cyrraedd y gôl dwi isho. Mae’r daith wedi cychwyn!

Beth wnaeth dy ysgogi i wneud cais ar gyfer FFIT Cymru eleni?

Roedd ’na gyfuniad o bethau wedi digwydd eleni. Ges i ddiagnosis o sleep apnea, o’dd hynny’n golygu ’mod i’n blino o hyd. Oherwydd ’mod i’n blino, do’n i’m yn medru gwneud ymarfer corff, doeddwn i ddim yn bwyta’n iawn, ac yn borderline diabetic. Felly er lles fy iechyd fy hun, ac er lles fy hun, roedd raid i mi fynd amdani.

Sut mae dy swydd yn effeithio ar dy ffordd o fyw?

Yn yr ofalaeth yma mae pobl wir wedi bod yn gefn i mi; ’dan ni’n cyfri’n hunain yn un teulu mawr. Mae pobl isho dangos lletygarwc­h pan dw i’n ymweld â nhw, maen nhw’n gwybod ’mod i’n gwneud cynllun FFIT Cymru a dw i wedi dechrau gweld newid yn barod o ran be maen nhw’n ei gynnig i mi a be ’da’n nhw ddim yn cynnig. Maen nhw ar y daith yna efo fi a dw i mor ddiolchgar i’r ofalaeth ac i bob un ohonyn nhw am fod yn gefn i mi yn ystod y cyfnod yma; mae’n amhrisiadw­y’r gefnogaeth dw i wedi’i gael.

“Dw i hefyd wedi cael lot yn o bobl dw i ddim yn nabod yn cysylltu efo fi drwy’r cyfryngau cymdeithas­ol, ac eraill yn stopio fi yn y stryd i ddymuno’n dda i mi. Mae’r gefnogaeth yna mor allweddol i sicrhau llwyddiant, a galla i ’mond diolch amdano.

I ddilyn cynllun ffitrwydd a bwyd Dylan, ac i weld holl ryseitiau gan Beca Lyne-pirkis, ewch i www.s4c.cymru/ffitcymru. Mae Her Parkrun 5k FFIT Cymru hefyd yn cael ei gynnal ar Mai 13, ac mae modd i unrhyw un ymuno â’r her – ewch i wefan FFIT Cymru am ragor o fanylion am eich ras parkrun agosaf, a rhannwch eich paratoadau gyda chyfryngau cymdeithas­ol @ffitcymru.

FFIT Cymru, S4C, Dydd Mawrth, 9yh

Clive Myrie’s Italian Road Trip

Monday, BBC2, 6.30pm

Newsreader and Mastermind presenter Clive, pictured, makes for an engaging host as he guides us around Italy in a 15-part weekday series.

It begins in the south, where he follows in the footsteps of Daniel Craig’s James Bond and learns why Puglia has become the nation’s gay holiday capital before joining a

traditiona­l band.

Dyer and Patrick Brammall as medical student Ashley and micro brewer Gordon respective­ly, who are thrown together in circumstan­ces best described as ‘bonkers’.

Here, Ash and Gordon have an awkward sexual encounter, prompting them to drift in different directions from each other.

Dark Water: The Murder Of Shani Warren Wednesday, Channel 5, 9pm

The body of 26-year-old Shani Warren was found with her hands tied and feet bound together in a Berkshire lake in 1987, but it wouldn’t be until 2022 that her killer was finally brought to justice. This documentar­y re-examines the case of the ‘Lady in the Lake’, as she was dubbed by the press.

At the inquest, Home Office pathologis­t Dr Benjamin Tillett Davis concluded that Shani had committed suicide by drowning

 ?? ??
 ?? ?? > Y Parchedig Dylan Parry
> Y Parchedig Dylan Parry

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom