Holl gyffro’r Cwpan o Ffrainc
MI FYDD gemau Cwpan Rygbi’r Byd eleni yn cael eu cynnal yn stadiymau rhai o ddinasoedd hyfryd a hanesyddol Ffrainc.
Lle gwell, felly, i fwynhau haf bach Mihangel tra’n gwylio tîm Warren Gatland yn disgleirio ar y cae?
Ond i’r rhai ohonoch chi sydd ddim am fentro ymhellach na’r soffa, mae gan S4C arlwy i blesio’r ffans ffyddlon.
Bydd S4C yn darlledu pob gêm Cymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn Ffrainc yn fyw, gyda Sarra Elgan, Jason Mohammad, Lauren Jenkins a Mike Phillips yn cyflwyno’r darllediadau o’r twrnament.
Y sylwebydd Gareth Charles yw llais rygbi Cymru gan ddod â holl gyffro’r gemau i’r gwylwyr adre. Yn ymuno â’r criw i ddadansoddi’r gemau bydd rhai o fawrion y byd rygbi, gan gynnwys Jonathan Davies, Gwyn Jones, Siwan Lillicrap, Rhys Priestland, Dyddgu Hywel, Robin Mcbryde, Rhys Patchell a mwy.
Un sy’n edrych ymlaen yn fawr at y gystadleuaeth ydi cyn-fewnwr Cymru a’r Llewod, Mike Phillips: “Ni gyd yn edrych ymlaen yn ofnadwy am y gystadleuaeth – yr un cryfa’ sydd wedi bod dw i’n meddwl... Gall unrhyw un ennill e. Dw i’n edrych ymlaen i fod yn rhan o’r tîm bant o’r cae, a gobeithio fydd Cymru yn cael llwyddiant ar y cae.”
Bydd darllediadau S4C yn dechrau gyda’r gêm agoriadol rhwng Ffrainc a Seland Newydd nos Wener ac yn dilyn tîm Warren Gatland drwy gydol Cwpan y Byd, gan ddangos rownd yr wyth olaf, y rownd gynderfynol, y trydydd safle a’r ffeinal yn fyw o’r Stade de France ym Mharis.
Sarra Elgan fydd yn cynnig amuse-bouche i ni o’r gemau ar S4C gan ymuno â Jonathan Davies a Nigel Owens i drafod tîm Cymru yn eu ffordd ffraeth arferol ar raglen Jonathan.
Roedd Sarra yn Ffrainc ar gyfer Cwpan y Byd yn 2007 ac mae hi’n dweud ei bod hi “methu aros” i fod yno eto eleni.
“Bydd e’n brofiad anhygoel i fod mas yn Ffrainc. O’n i’n ddigon ffodus i fod mas yna yng Nghwpan y Byd yn 2007 ac mae’n rhywbeth arbennig iawn. Yn amlwg i’r chwaraewyr sy’n rhan o’r gystadleuaeth ond mae’n sbesial iawn hefyd i ni fel cefnogwyr.”
Cwpan Rygbi’r Byd 2023, S4C, Dydd Gwener, 6.45yh