Western Mail - Weekend

Y silff lyfrau

-

ELON Laura Murphy a Nia Parry (Atebol, £7.99)

O’r holl anifeiliai­d gwyllt, dw i’n meddwl mai eliffantod yw’r rhai mwyaf rhyfeddol ohonyn nhw i gyd. Dach chi’n cytuno? Iawn, mi wna i gyfaddef fod jiráffs yn reit cŵl hefyd, ond i mi, eliffantod sy’n mynd â hi. Gyda’u clustiau anferthol a’u trynciau hirion, maen nhw’n greaduriai­d rhyfedd, fel ’sa nhw’n perthyn i ryw oes wahanol. Anifeiliai­d sy’n gryf, yn urddasol, yn fawreddog ac yn annwyl ’run pryd.

Ac o’r holl eliffantod i gyd, mae un direidus sy’n arbennig iawn – Elon. Fel unrhyw eliffant ifanc, mae Elon yn llawn brwdfryded­d ac egni, ac wedi hen ’laru ar orfod gwrando ar ei mam a’i thad. Am ddiflas, meddylia Elon, a hithau’n dyheu am antur.

Ar ôl anwybyddu ei rhieni a dianc (dw i ddim yn argymell hyn o gwbl!) daw dymuniad Elon am antur yn wir, ond mae’r byd tu hwnt i ddiogelwch y llwyth yn lle mawr, a buan iawn daw’r eliffant ifanc ar draws y creadur peryclaf un – dyn.

O feddwl pa mor hardd yw’r creaduriai­d yma, mae’n fy nhristáu i feddwl eu bod nhw mewn perygl enbyd o ddiflannu yn gyfan gwbl, a hynny o’n herwydd ni. Petai eu hela am yr ifori yn eu hysgrithra­u dros y canrifoedd ddim yn ddigon drwg, mae eu cartref nawr o dan fygythiad wrth i ni ddinistrio’r coedwigoed­d sy’n eu cynnal gyda’n peiriannau felltith.

Ond mae Elon yn ddewr. Hyd yn oed wrth ddod wyneb yn wyneb â’r peiriannau ffyrnig sy’n bygwth ei chynefin, mae Elon yn penderfynu na all hi adael i hyn ddigwydd, heb wneud dim. Rhaid gweithredu. Tybed a fedr un eliffant pitw roi stop ar y dinistr?

Mae arlunwaith Elin Vaughan Crowley yn eich denu’n syth, ac mae holl liwiau a rhyfeddoda­u’r goedwig yn dod yn fyw drwy’r lluniau. Llyfr dwyieithog yw hwn ar ffurf mydr ac odl, felly nid yw’n gyfieithia­d uniongyrch­ol, ond yn hytrach yn addasiad o’r testun. Tra ’mod i’n hoff iawn o lyfrau dwyieithog, fy unig gŵyn, efallai, yw bod gosodiad y testun mymryn yn ddryslyd ar adegau gan fod y testun ’run maint yn y ddwy iaith.

Dyma lyfr defnyddiol ar gyfer cyflwyno uned o waith ar anifeiliai­d, cadwraeth, yr amgylchedd ac i dynnu sylw – heb greu panig – am yr argyfwng sy’n wynebu byd natur. Rhaid ceisio trosglwydd­o’r neges i’r genhedlaet­h nesaf os ydyn nhw am gael y cyfle i weld eliffantod go iawn yn eu cynefin naturiol rhyw ddiwrnod. Gobeithio bydd y darllenydd ifanc yn dilyn esiampl Elon ddewr, ac yn credu y gallan nhw hefyd wneud gwahaniaet­h drwy weithredu.

Morgan Dafydd

Crynodeb o dolygiad oddi ar www.gwales. com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru

 ?? ??
 ?? ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom