Y SILFF LYFRAU
PEN-BLWYDD HAPUS? Ffion Emlyn (Y Lolfa, £9.99)
Golygfa hunllefus, lawn tensiwn sy’n gy wyniad i nofel gyntaf F on Emlyn, wrth i’r darllenydd ganfod y prif gymeriad, Martha, yn gorwedd ar ei gwely yn y tywyllwch, gyda gwaed drosti a chyllell yn ei llaw.
Ond dim ond cipolwg i’n herio a gawn o’r sefyllfa brawychus yma, cyn i’r nofel blymio’n ôl i’r gor ennol, i benblwydd diweddar Martha’n dri deg dau oed, a’r noson lle mae ei bywyd yn newid am byth.
Yn anrheg pen-blwydd, mae rhieni Martha’n rhoi newyddion iddi – gan droi ei byd ar ei ben, a gwneud iddi gwestiynu popeth a wyddai gynt. Beth sy’n dilyn yw siwrne Martha i ddarganfod y gwir, a thrwy hynny, darganfod ei hunan.
Wrth i Martha geisio gwneud synnwyr o’i bywyd yn sgil datguddiad ei rieni, mae’n gadael ei chariad, Daf, i fynd ar genhadaeth bersonol. Wrth i daith Martha ei harwain i Lundain, ac at yr eclectig Ywain ac El , ac yna i Gaerdydd at Rhys a Denise a thu hwnt, dim atebion a ddaw i’r wyneb, ond yn hytrach, mwy o gwestiynau, cyfrinachau a chymhlethdodau ym mywydau ei rindiau newydd, ac mae Martha’n teimlo’n fwy ansicr fyth o’i thrywydd.
Stori sy’n troi a throelli yw hon, sy’n archwilio natur dynol, ar adegau gyda hiwmor a hwnnw’n aml yn ddigon tywyll.
Mae’r arddull yn drawiadol, y nofel yn neidio o amserlin Martha’r presennol, i stori’r gor ennol diweddar, a’r amgylchiadau sy’n arwain at yr holl helynt.
Nofel ddirgelwch gyfoes yw hon sy’n datblygu drwy wrthgyferbyniad rhwng naratif fygythiol, dywyll, a stori ddoniol ac ysgafn. Dawn Emlyn fel storïwr yw ei thriniaeth o bynciau dwys a chymhleth a’i gallu i’w plethu â digwyddiadau a deialog digrif.
O ganlyniad mae’n stori hawdd i’w darllen, ond serch hynny mae’n un sy’n peri i’r darllenydd ystyried nifer o bynciau difrifol wrth iddyn nhw godi drwy’r nofel.
Er enghrai t, ceir trafodaeth deimladwy am berthynas orfodol, ddifrïol, ac e aith honno ar blentyn.
Mae pro ad yr awdur fel cynhyrchydd drama yn amlwg i mi; dyma nofel a fyddai’n sicr yn addas iawn i’w throi’n ddrama deledu neu radio. Os ydych yn mwynhau dirgelwch yn gymysg â dipyn o ysgafnder yn eich nofelau, yna mae’r gyfrol yma’n cyfuno’r ddau i’r dim.
Marged Berry
Crynodeb o adolygiad oddi ar www.gwales. com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru