Western Mail - Weekend

Y SILFF LYFRAU

-

Y GOEDEN IOGA Leisa Mererid (Gomer@lolfa, £5.99)

Dyma’r llyfr cyntaf o’i fath yn y Gymraeg sy’n cy wyno ioga i blant a’u teuluoedd.

Mae’r clawr yn denu’r llygad yn syth, gyda’i liwiau modern, heddychlon. O agor y clawr, mae yno gy wyniad byr yn egluro beth yn union yw ioga, pam ei fod yn neud lles i ni, ac ychydig o hanes yr ymarfer sydd wedi bod o gwmpas ers o leiaf 5,000 o ynyddoedd! Yn y croeso hefyd mae gair am beth i’w wisgo a sut dylid mynd ati i gael y gorau allan o sesiwn ioga.

Fel ymarferydd ioga (achlysurol!) fy hun, roeddwn wrth fy modd o ddarganfod y llyfr hwn. Wedi hen arfer ar gael fy mhlant yn neidio ar fy nghefn yn ystod fy ymgais at wneud y symudiad downward facing dog, roedd hi’n hen bryd iddynt gael tro eu hunain!

Mae Leisa Mererid wedi taro ar arddull hyfryd i esbonio ioga syml i blant trwy ein harwain ar daith hedyn bychan yn tyfu’n ara deg mewn i goeden gadarn, gan gwrdd y creaduriai­d sy’n chwarae oddi tani ar hyd y ordd. Mae darluniau tawel, arbennig Cara Jones yn serennu, gan gynnig rhywbeth newydd ar bob darlleniad.

Yn wir mae’n bosib darllen y llyfr hardd hwn fel stori cyn gwely ar ei ben ei hun, neu ei ddilyn fel canllaw gy eus ar gyfer y siapiau ioga yn unig. Ond fel cyfuniad o’r ddau oedd orau gan fy merch 7 oed a minnau. Roeddem yn darllen y stori gan wneud y symudiadau ioga ar yr un pryd, ac ar ôl sawl darlleniad, roedd penillion y testun yn dechrau aros yn y cof a ninnau’n gallu aros a mwynhau’r siâp heb orfod codi pen.

Mae cy e yma am gyfres yn fy marn i. Gyda mwy a mwy o bwyslais yn cael ei roi ar iechyd meddwl ac ymwybyddia­eth ofalgar plant a phobl ifanc y dyddiau hyn, gobeithio cawn weld mwy o lyfrau tebyg i Y Goeden Ioga yn cael eu cyhoeddi yn fuan iawn.

Elen Roberts

Crynodeb o adolygiad oddi ar www.gwales. com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru

 ?? ??
 ?? ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom