GAIR I GALL Le Gru udd
REIT, dyma’r tro ola dw i’n mynd i sôn am y cwestiynau ac amheuon lu am ein Prif Weinidog, Vaughan Gething, dw i’n addo! Mae’r sylw’n parhau, ond mae’n amlwg na fydd yn stori “go-iawn” nes y bydd newyddiadurwyr “difrifol” yr ochr arall i Glawdd O a’n dechre codi cnec am y peth.
Achos dyna’n llinyn mesur ni fan hyn – hyd nes y daw’r sgandal i gael ei ystyried yn sgandal gan y papurau Llundeinig, ac yna ddenu sylw a llid Keir Starmer, gall Vaughan Gething ymlacio a chario ymlaen i anwybyddu’r clebar wast yng Nghymru.
Hawdd iawn y gallech gymharu ei sefyllfa gydag Angela Rayner sydd wedi ei darn-ladd yn gyhoeddus am yr amheuon am statws un o’i thai iddi werthu – stori weddol ddiniwed ond sydd wedi ei ddyrchafu i lefel sgandal fawreddog gan rymoedd
newyddiadurol Seisnig, gan sicrhau fod wyneb Rayner yn plastro’r papurau am wythnosau.
A’r hyn sy’n dristach byth yw fod ein cyfryngau ni ein hunain ag obsesiwn o ddilyn agenda’r papurau Seisnig o hyd ac o hyd. Cymerer ein rhaglen hir o drafod o’r enw Bore Sul, sy’n llyncu’r abwyd bob tro. Roedd y trafod fore Sul diwetha bron i gyd am y pryderon am Rishi Sunak a Humza Yousaf (am mai dyna oedd yn y papurau Seisnig) gyda sgwrs fer am Gething ar y diwedd, fel ryw ôl-nodyn i gyfeirio ato wrth basio. Ac mae’r un tueddiad yn foreol ar Radio Cymru.
Ma’ lot o bethe yn neud i gwestiynu ydyn ni’n wlad o gwbl dyddie ’ma. Mae cymaint o agendas yn cael eu rheoli gan feddylfryd taeog a’r obsesiynu am ein cymdogion.
Cymerer y byd addysg – mae addysg uwch yng
Nghymru ar ei gliniau, ond mae ein llywodraeth ym Mae Caerdydd yn parhau i roi dros hanner biliwn o bunnoedd y wyddyn tuag at gefnogi addysg uwch ac economi Lloegr (gyda’r gyllideb wedi cynyddu 60% dros bum mlynedd), arian y gellid ei wario ar brifysgolion yng Nghymru. Ond dyna ni, dydyn ni ddim yn gweld gwerth yn ein prifysgolion ein hunain – mae’r pwyslais ar ddweud y gallwch chi ond fod yn seren gydag anogaeth ein llywodraeth i fynychu un o brifysgolion Lloegr.
Mae tueddiad tebyg yn y byd teledu gyda ryw obsesiwn am gefnogi a defnyddio actorion neu selebs sydd wedi pro eu hunain yn Lloegr ar y cyfryngau Cymraeg. Difyr oedd colofn Sharon Morgan yn Y Cymro yn dangos sut mae cymaint o actorion Cymreig yn colli mas ar draul pobl sydd a
“phro eil” yn Lloegr erbyn hyn. Y neges amlwg i actorion Cymreig, meddai, yw: “Os am weithio yng Nghymru, ewch i Loegr i chwilio am ‘bro eil’!”
Mae’r un peth yn wir mewn cynifer o feysydd – yn y byd llyfrau, gewch chi fyth eich gwahodd i Ŵyl y Gelli nes y byddwch yn ddigon adnabyddus yn Lloegr.
A gall Vaughan Gething beidio troi lan i’n Senedd i ateb cwestiynau heb boeni dim – yr unig berson ma’ fe am ei blesio yw darpar Brif Weinidog Prydain, Keir Starmer, sydd wedi mynegi mor gyson ei ddi yg diddordeb a di yg pryder am fuddiannau Cymru. Ond pwy ŵyr? Os barith y sgandal yma i rygnu mlaen, mi welith hwnnw hyd yn oed fod yr anhawster bach yma yng Nghymru yn fwy o dra erth na’i werth.