Mae rhaid parhau ein brwydr gyda lyngyr yr iau
ER fod y ffigurau a ryddhawyd am nifer yr anifeiliaid a gafodd eu heffeithio gan lyngyr yr iau neu’r afu yn 2014 yn well na’r flwyddyn flaenorol, mae dal lle i bryderu.
O blith y gwartheg a ddanfonwyd i’r lladd-dy yn 2014, roedd un ym mhob pedwar yn dioddef o lyngyr yr iau.
Tybed a sylweddolir fod gwartheg, defaid ac sy’n dioddef o’r anhwylder yn y Deyrnas Unedig yn golygu colled o £300 miliwn y flwyddyn i’r diwydiant amaeth.
Gall achosi anffrwythlonrwydd mewn anifail magu; y lloi yn pwyso llai ar eu bwriad ac yn wannach a’r fuches yn cynhyrchu llai o laeth.
Cymer yr anifail ragor o amser i fod yn barod ar gyfer y farchnad a’r afu yn cael ei gondemnio. Gall y colledion yn y gwartheg fod cymaint a £95 y pen.
Ofnir y gall y sefyllfa fod yn llawer gwaeth eleni oherwydd ansawdd y tywydd.
Cafwyd gaeaf mwynaidd yn llawn gwlybaniaeth drwy’r flwyddyn, amodau delfrydol i’r math o falwod y llaid sy’n cario’r parasit larfaol ac yn achosi i lyngyr yr iau luosogi mwy nag arfer.
Gwelwyd arwyddion fod y cyflwr yn fwy cyffredin eleni mewn ardaloedd a arferai fod yn glir ohono.
Gyda mwy o wlybaniaeth yn ystod y flwyddyn, bu’r tir pori yn wlyb ac yn gyfrwng i achosi’r afiechyd.
Y cyngor yw y dylid ffensio’r tir pori i atal anifeiliaid rhag mynd i’r mannau gwlyb. Gallai hyn fod yn gyfraniad sylweddol.
Yn draddodiadol roedd angen ceisio atal llyngyr yr afu yn dymhorol drwy drin yr anifail a chyffur pwrpasol yn yr hydref a’r gwanwyn i ladd y parasit.
Bellach, gall effeithio ar yr anifail unrhyw adeg o’r flwyddyn ac o ganlyniad efallai mai doeth fyddai gofyn i’r milfeddyg wneud profion.
Gall defnyddio moddion llyngyr yn effeithiol mewn gwartheg fod yn gymorth wrth gynnal perfformiad a chynhyrchedd.
Serch hynny, rhaid bod yn ofalus a chofio y gall gorddefnyddio’r cynnyrch hyn arwain at imiwnedd i’r moddion lladd llyngyr gan achosi costau a gwaith heb angen.
Yn anffodus, does dim brechiad i ddiogelu’r anifail rhag llyngyr yr iau ond deallir fod yna ymchwil addawol ar waith ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Brysied y dydd pan y ceir brechiad i atal llyngyr yr iau mewn anifeiliaid.