Western Mail

WELSH COLUMN

- DYLAN IORWERTH

MAE’N anodd meddwl am un dyn yn cynnwys rhywbeth tebyg i 1,500 o flynyddoed­d o fywyd cenedl, ac yn ymddangos yr un mor gyfforddus yn y naill ben a’r llall i’r cyfnod.

Dyna oedd rhyfeddod y bardd Gwyn Thomas, y meddyliwr craff oedd yr un mor gyfforddus efo iaith yr hen, hen farddoniae­th a iaith y sinema. Efo iaith y Beibl a iaith plant bach yn chwarae.

Pan fydd pobol yn edrych yn ôl ymhen canrifoedd ar ein llenyddiae­th ni (gan obeithio y bydd rhywrai’n dal i allu gwneud), mae’n bosib iawn mai Gwyn Tom fydd y mwya’ o’r beirdd i gyd.

Oherwydd ei fod o’n canu am bethau ein dyddiau ni, yn hytrach nag am Gymru oedd yn hanner bod rhywdro yn y gorffennol, roedd o wedi costrelu llawer o amheuon a difyrrwch y cyfnod. A’r rheiny, y nodweddiad­ol, yn perthyn i bob oes hefyd.

Un allwedd oedd ei ffordd o drin iaith a honno, rhywsut, yn gallu tynnu Marilyn Monroe a Heledd at ei gilydd. Roedd hi’n gyfuniad o sawl gwahanol fath o Gymraeg – o iaith capel i iaith y stryd – a hynny’n creu llais nad oedd mo’i debyg gan neb arall.

Mi allwch chi ddarllen cerdd gan Gwyn Thomas a gwybod yn syth mai fo oedd y bardd. Ac, er eu bod nhw’n ymddangos yn syml a hyd yn oed yn ffwrdd â hi, mae o’n anodd iawn ei ddynwared.

Mae hi’n anodd cael gafael ar ei gyfrol gynta un, o dros hanner canrif yn ôl. Ond, er mai eitha’ traddodiad­ol ydi llawer o Chwerwder yn y Ffynhonnau, mae llais dyfodol Gwyn Thomas yn sibrwd o dan yr wyneb.

Erbyn yr ail gyfrol, Y Weledigaet­h Haearn, mae’r llais hwnnw’n cryfhau; erbyn y drydedd, Ysgyrion Gwaed, mae’n fwy amlwg na’r un llais arall.

Erbyn y bedwaredd, Enw’r Gair, mae’r llais ar y dudalen yr un mor gofiadwy a’i lais llafar a rhyw fymryn o grac chwareus ynddo fo.

Mi gafodd y bardd o’r Blaenau ei gyhuddo gan rai o fod yn rhyddieith­ol, ond twyll ydi hynny. Oherwydd fod ei glust o mor fain, tydi’r rhythmau a’r patrymau ddim mor amlwg ag yn ein barddoniae­th arferol ni lle mae’r prydydd y waldio’r darllenwyr efo acenion ac odlau.

Yn unol â hoffter beirniadol Gwyn Thomas o’r diwylliant Americanai­dd, mae yna jazz yn y cerddi... mân guriadau ac is-rhythmau sy’n chwarae yn ôl ac ymlaen.

Ac fel cerddor jazz yn samplo rhyw dôn enwog ynghanol alaw arall, mae yna dalpiau o sŵn y Beibl neu’r hen farddoniae­th neu’r Bardd Cwsg yn gwau ymhlith y geiriau.

Dim ond un dyn oedd yn gallu cyfuno Catraeth a’r cowbois yn ei fyd heb i hynny swnio’n chwithig. A Gwyn Tom oedd hwnnw. Dylan Iorwerth yw Golygydd Gyfarwyddw­r Golwg a Golwg 360

 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom