Western Mail

Dechrau blwyddyn newydd gyda gobaith

- Angharad Evans

WEL, dyma ni wedi cyrraedd blwyddyn newydd. Bu 2016 yn sicr yn flwyddyn i’w chofio am sawl rheswm.

Ar yr ochr bositif, yn ystod cyfres Ffermio gwelwyd trawsdoria­d o gynnyrch, stoc, busnesau a phobl anhygoel cefn gwlad Cymru.

Mae’n wir fod gennym yma yng Nghymru safon aruthrol – safon sy’n parhau ac yn gwella o flwyddyn i flwyddyn.

Gwelwyd yr amaethwyr a gweithwyr y busnesau lleol yn parhau i weithio’n ddyfal er gwaethaf sefyllfa’r sector ar hyn o bryd.

Bu’n flwyddyn anodd â dweud y lleiaf, gyda phrisiau ŵyn a llaeth yn bwrw’r gwaelod ac yn ei gwneud hi’n hynod o anodd i gadw dau ben llinyn ynghyd.

Mae hyn wrth gwrs wedi effeithio ar yr holl fusnesau ail law sy’n gysylltied­ig â’r ffermydd llaeth a defaid, a’r economi wledig gyfan.

Ganol y flwyddyn penderfyno­dd Prydain adael yr Undeb Ewropeaidd. Daeth hyn â gofid ychwanegol i nifer wrth ystyried y gefnogaeth ariannol mae amaethwyr yn ei dderbyn oddi wrth Ewrop ar hyn o bryd.

Beth fydd yn digwydd nesaf? Pryd fyddwn ni’n gweld effeithiau’r penderfyni­ad? Nid oes unrhyw beth yn glir, ac mae hyn wedi ychwanegu at y cwmwl niwlog yna sydd uwchben amaeth ar hyn o bryd.

Ond, mae blwyddyn newydd yn golygu dechrau newydd. Mae’n rhaid wynebu’r flwyddyn gyda gobaith a pharhau i wneud beth wnawn orau – gweithio’n galed boed heulwen neu storm.

Nid oes pwrpas digalonni na gofidio. Ac mae un peth yn sicr, mae angerdd ac arddeliad pobl cefn gwlad mor fyw ag erioed. Fel dywed Dic Jones – “Tra bo dynoliaeth fe fydd amaethu, a chyw hen linach yn ei holynu.” Cofiwch y geiriau hyn ar ddechrau blwyddyn newydd.

Mae’n anodd credu bod rhaglen Ffermio yn dathlu ei phen-blwydd yn 20 oed fis yma! Felly fe fydd rhaglen awr o hyd yn cael ei darlledu ar Ionawr 9 yn edrych nôl dros y blynyddoed­d.

Diolch i chi amaethwyr am eich gwaith diflino bob dydd o’r flwyddyn, a diolch o waelod calon i chi am barhau i wylio Ffermio bob wythnos.

Codwn ein gwydrau i chi a dymuno Blwyddyn Newydd Dda a llewyrchus iawn i chi gyd!

Mae Angharad Edwards yn ymchwilydd ar gyfres Ffermio, sydd ar S4C bob nos Lun am 9.30yh. Gallwch wylio pennod neithiwr ar s4c.cymru a BBC iPlayer.

 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom