Western Mail

Ffigurau torcalonnu­s am incwm y ffermwyr

- Lloyd Jones

BU’R tywydd llynedd yn ffafriol iawn i ffermwyr er na chafwyd llawer o haul, ond bu’n flwyddyn doreithiog gyda’r hinsawdd yn uwch nag arfer. Bu’n eithriadol o dyfiadwy hyd fis Rhagfyr.

Er hynny, torcalonnu­s iawn yw’r ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru am incwm y ffemwyr yn ystod y flwyddyn.

Er bod yna newidiadau enfawr ym maint ffermydd Cymru wrth gydio maes wrth faes, maent ar gyfartaled­d wedi mynd i fyny 115 erw, ac o ganlyniad mae nifer y daliadau wedi gostwng 5,000 ers 2010 i 35,000.

Gyda nifer y gwartheg a’r defaid wedi lluosogi yn ystod y flwyddyn, mae incwm ffermwyr wedi gostwng 23% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Mae effaith TB buchol wedi cael effaith andwyol ar incwm rhai ffermwyr gan fod 9,630 o wartheg wedi gorfod cael eu lladd, ac i fyny at 34% mewn rhai ardaloedd.

Er fod pob sector yn y diwydiant wedi dioddef, ffermwyr llaeth sydd wedi dioddef fwyaf, gyda’u hincwm wedi gostwng 53%.

Mae sefyllfa’r llaeth 5% yn waeth yng Nghymru na Lloegr.

Mae gwerthiant llaeth yng Nghymru wedi gostwng £240m mewn dwy flynedd.

Deallir mai’r prif reswm yw bod arferion y cyhoedd wedi newid. Dim amser yn y bore i fwyta grawn neu uwd gyda llaeth, gan ddewis bwyd cyfleus wrth deithio i’r gwaith.

Mae’r archfarchn­adoedd yn brwydro yn erbyn ei gilydd am y pris isaf ac yn rheoli’r farchnad. O ganlyniad, mae ffermwyr llaeth yn cael eu gwasgu yn ddianghenr­haid.

Llaeth ffres sy’n hawlio’r pris uchaf ond mae pris y farchnad wedi gostwng cymaint â £180m yn 2015 a £55m yn ychwanegol yn ystod chwe mis cyntaf 2016.

Cydnabyddi­r y wlad hon fel y gorau o ran safon uchel cynhyrchu llaeth o ystyried glendid, hwsmoniaet­h a lles yr anifail.

Mae maeth arbennig mewn llaeth a rhaid mynd ati i argyhoeddi’r cyhoedd.

Tybed a sylweddoli­r ei werth o ran iechyd y corff gan fod ynddo galsiwm, protin a fitaminau B12 a D.

Mae’n gyfrwng i atal nifer o’r afiechydon mwyaf cyffredin fel clefyd y galon, cancr, stroc a chadw’r dannedd yn iach.

Trwy yfed llaeth, ceir gwell iechyd.

 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom