Western Mail

WELSH COLUMN

- MENNA ELFYN

RWY’N ysgrifennu’r golofn hon o glydwch fy ngwely. Pan mae rhywun yn sâl, does yna unman gwell na gallu swatio yn y gwely. Mae pump gobennydd erbyn hyn y tu ôl imi sydd yn ei gwneud hi’n haws o lawer i deipio’r golofn.

Cafodd y ddwy gath eu gwahardd o’r stafell ar ôl i’r ddwy, Colsyn a William, feddiannu mwy na’u siâr o’r lle cyfyng. Yn wir, mae’n gystadleua­eth rhyngddynt pwy all ffeindio’r botel dŵr twym a gorwedd arni cyn i meiledi – sy’n anhwylus cofiwch – gael ei thraed drosti.

Felly, yr unig anifail sy’n weddus mewn gwely i rywun tost yw’r un sy’n sgrifennu hwn yn awr.

Nawr, all neb ddweud nad oedd hiwmor gan y Cymry, neu ryw fathwr geiriau ta pun, wrth roi enw Cymraeg ar “shingles”. Chlywes i ddim am y dolur hwn – “yr eryr” – cyn cael fy nharo yn fy nhalcen, neu yn fy llygad i fod yn fanwl gywir, gyda’r fath aflwydd.

Ond “yr eryr” yw’r gair Cymraeg amdano, neu “yr eryrod” sy’n fwy agos ati os teimlwch fod haid ohonynt wedi ymosod ar eich cyfansoddi­ad.

Dod o’r ucheldir yn rhywle a wnaeth fel eryr Pengwern unwaith gan blannu ei grafangau yn fy llygad. Bron nad yw’n ddigri pe na bai mor boenus.

Ond nid wyf am eich cydymdeiml­ad. Ac mi ddywedodd Andrew Marr mewn rhaglen ddogfen ddiweddar amdano’n ceisio ffyrdd newydd o wella o effeithiau strôc enfawr a gafodd rai blynyddoed­d yn ôl, mai hunan-dosturi yw’r teimlad mwyaf affwysol sy’.

A chytunaf ag ef wrth weld rhai wrthi’n ymdrechu, yn eu gwendid, yn eu hanabledd bob dydd o’r wythnos pan af yn ysgafndroe­d i siopa.

Un felly oedd Tony Conran, y bardd rhyfeddol o Fangor, a adawoddd gyfoeth o lenyddiaet­h i ni fel cenedl er brwydro’n ddyddiol gyda’i broblemau corfforol.

Gyda llaw, yn Llundain ar Fawrth 11eg bydd Corws Conran yn perfformio rhai o’i weithiau mwyaf fel rhan o Gynhadledd Cymdeithas David Jones i gofio’r Rhyfel Byd Cyntaf. Cynhelir hyn yn yr “Artworks Guild yn Llundain”.

Ac wrth gyfeirio at hyn, dyna dda oedd gweld bod Alys Conran, ei ferch, â’i nofel gyntaf “Pidjin” ar restr gwobr Dylan Thomas eleni.

Cystal tewi am nawr. Gydag unrhyw glaf mewn gwely, mae yna rywun sydd yn gofalu gyda llygaid barcud(!) na wna’r claf ei gorwneud.

Felly rhwng y llygaid barcud, sydd yn troi fy myd yn un o amserlenni tabledi a diferion llygaid ac eli, a’r eryr cythreulig a ymosododd arnaf mor ddiwahoddi­ad, yn y lle cyntaf, sdim i’w wneud ond gorwedd yn ôl a dychmygu diwrnodau hirfelyn tesog.

“Rhowch imi gilfach a glan” – ar ôl imi wella hynny yw.

Mae’r Athro Menna Elfyn yn Gyfarwyddw­r Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom