WELSH COLUMN
PETH da ydi dychymyg. Hyd yn oed ymhlith gwleidyddion. Ond mae’n ddychrynllyd o brin.
Y peryg, wrth ystyried y digwyddiadau ofnadwy ar gornel Pont Westminster y diwrnod o’r blaen, ydi ein bod ninnau’n euog o’r un peth. Neu, o leia’ o ddychymyg rhannol.
Ryden ni’n gallu rhyw hanner amgyffred sut beth fyddai hi i sefyll ar bont brysur ar ddiwrnod cyffredin a gweld car yn taranu tuag aton ni ar 76 milltir yr awr.
Yn llygad y meddwl, mi allwn ni hyd yn oed weld plismon dewr yn mentro – a cholli – ei fywyd er mwyn trïo atal dyn efo gwn. Ac, mewn ffordd annigonol, mi allwn ni ddychmygu galar a gofid teuluoedd.
Am ryw reswm, er hynny, allwn ni ddim mynd yr un cam ymhellach a dychmygu sut beth ydi hi i fyw mewn dinas fel Mosul yn Irac ar hyn o bryd, lle mae digwyddiadau llawer gwaeth yn digwydd bob dydd ar bron bob cornel.
Yr un pryd yn union ag yr oedd yr holi’n dechrau o ddifri am gefndir Khalid Masood – Adrian Ajao gynt – roedd yna stori am fwy na 100 o bobol ddiniwed yn cael eu lladd mewn ymosodiad o’r awyr gan awyrennau’r Unol Daleithiau.
Chafodd honno fawr ddim sylw ar y pryd – rhyw ychydig yn fwy wedyn, pan ddaeth hi’n glir ein bod ni’n sôn am gannoedd ar gannoedd o bobol gyffredin yn cael eu lladd mewn ffordd debyg yn ystod yr wythnosau diwetha’.
Mae’n rhaid i ni a’r gwleidyddion allu dychmygu be ydi hi i fyw mewn amgylchiadau o’r fath. Mae bywydau pobol gyffredin yno werth llawn cymaint â bywydau yma ac mae galar teuluoedd yn union yr un peth.
Er mor ofnadwy oedd y lladd yn Llundain ac er mor deimladwy oedd tystiolaeth perthnasau a ffrindiau’r meirwon, mae yna beryg mawr ein bod ni’n colli persbectif a thrwy hynny’n gwneud y drwg yn waeth.
Erbyn hyn, dydi hi ddim yn glir yn union beth oedd cefndir y lladdwr na faint o gysylltiad go iawn oedd rhyngddo fo a mudiadau braw, na beth yn union oedd ei ymlyniad o wrth grefydd Islam. Ond, am rai dyddiau, mi gafodd diwylliant cyfan ei bardduo.
Y broblem arall ydi fod rhai pobol yn amlwg yn gallu dychmygu dioddefaint pobol mewn gwledydd fel Irac ac Afghanistan ac, yn gam neu’n gymwys, maen nhw’n beio gwledydd y Gorllewin am hynny.
Hyd yn oed os ydi milwyr IS yn defnyddio’r dacteg lwfr o droi pobol gyffredin yn darian, yr hyn y mae eu darpar-ddilynwyr yn ei weld ydi lluoedd y cynghreiriaid yn ddi-hid o fywydau diniwed wrth ddilyn eu bwriad gwleidyddol.
Dydi dychmygu safbwyntiau pobol eraill ddim yn golygu cytuno efo nhw, ond mae’n gwneud eu gwrthsefyll yn haws. Dylan Iorwerth yw Golygydd Gyfarwyddwr Golwg a Golwg 360