Cynnyrch lleol yn cael hwb gan y Talbot
RHAID cymeradwyo ymdrech a brwdfrydedd perchnogion Gwesty’r Talbot, Tregaron, Mick Taylor, ei wraig Nia a Dafydd Watkin y prif gogydd am godi proffil y diwydiant amaeth drwy gynnal cyfres o giniawiau yn adlewyrchu cynnyrch lleol.
Yn drawiadol, y gŵr gwadd yn y cinio cyntaf oedd Gary Jones, cigydd lleol sy’n cyflenwi cig i Westy’r Talbot.
Cafwyd anerchiad diddorol ganddo am ei gysylltiad â’r diwydiant cig pan yn ifanc pan arferai gynorthwyo yn y siop gigydd leol.
Ar Ôl dyddiau coleg treuliodd gyfnod yn Seland Newydd fel archwiliwr cig mewn lladd-dy lle byddent yn lladd 24,000 o ŵyn yn ddyddiol.
Yna dychwelyd a gweithio i wahanol asiantaethau yng Nghnolbarth Lloegr yn gwneud yr un gwaith cyn dychwelyd i Ladd-dy Llanidloes.
Wrth i siop y cigydd ddod ar werth yn ymyl ei gartref, mentrodd i fyd busnes a chyflogi dau fachgen llawn amser.
Cyfeiriodd at y ffaith ei fod yn byw mewn rhan o’r wlad sy’n cael ei chydnabod fel ardal sy’n cynhyrchu gwartheg bîff o safon uchel at ofynion y farchnad.
Adlewyrchir hyn yn y farchnad dda byw yn Nhregaron a’r ffaith fod tri lladd-dy cymeradwy o fewn cyrraedd.
Gwartheg wedi eu geni a’u magu yng Nghymru a leddir ynddynt a gellir olrhain y cig nôl i’w darddiad.
I ddilyn yr anerchiad cafwyd cyfle i brofi’r cig bîff a chynnyrch lleol ym mwyty Gwesty’r Talbot mewn cinio pum cwrs.
Cafwyd gwledd odidog gyda chymeradwyaeth haeddiannol i’r cogydd, Dafydd.
Ym 1856, canmolwyd y bwyd a lletygarwch y Talbot gan George Borrow a haedda ganmoliaeth uchaf y ganrif hon yn ogystal.
Mae cyfraniad Gwesty’r Talbot yn amhrisiadwy i’r gymuned leol. Cyflogant 22 o weithwyr llawn amser gyda 90% yn siarad Cymraeg, ynghyd â’r perchennog.
Er fod y gwesty wedi cael ei weddnewid ar raddfa eang, llwyddwyd i gadw ei gymeriad.
Mae yma ddigon o ddeunydd i wefreiddio’r dychymyg wrth feddwl am y bobl fu’n troedio’r llawr carreg am ganrifoedd a’u sgyrsiau o amgylch y tân.
Mae Tregaron yn gyrchfan boblogaidd ac yn atyniad sy’n cynnig golygfeydd godidog, llynnoedd, afonydd a rhyfeddodau’r Gors Goch.
Bydd y cinio nesaf yn dathlu cig oen lleol gwanwyn eleni ar Nos Sadwrn, Ebrill 22.