Y Sioe Fawr yn parhau i fynd o nerth i nerth
BYDD golygon miloedd o bobl pell ac agos ar y Sioe Fawr yr wythnos hon yn Llanelwedd gyda 1,000 o ymwelwyr wedi teithio o 50 gwlad dramor.
Y Llywydd yw Brian Jones, Castell Howell, o Gaerfyrddin, sir nawdd y Sioe Fawr eleni. Maent wedi ymdrechu’n ddyfal yn ystod y ddwy flynedd i godi arian sylweddol i gyllid y Gymdeithas sy’n dangos brwdfrydedd ac ymrwymiad yr hen a’r ifanc.
Gelli Aur, Sir Gâr, oedd un o’r ardaloedd olaf i gynnal y sioe deithiol. Dyma’r sir a gafodd y weledigaeth i geisio cael safle barhaol i’r Sioe Fawr, er na chafodd ei gweithredu am flynyddoedd lawer.
Bu’r blynyddoedd cynnar yn Llanelwedd yn ddigon ansicr a gofidus oherwydd diffyg cefnogaeth. Dros y blynyddoedd cynnar bu nifer yr ymwelwyr dan 50,000 dros y tri diwrnod, ac o ganlyniad dim digon o gyfalaf i symud ymlaen.
Dim ond 40 o garafannau oedd yno ar y cychwyn a’u lleoliad wrth ochr adeiladau’r gwartheg a phawb yn dod i adnabod ei gilydd fel un teulu mawr. Bellach gwelir 550 o garafannau gyda nifer ychwanegol ar dir preifat.
Ers 1981, gyda’r Sioe yn parhau pedwar diwrnod, gwelwyd newidiadau sylweddol. Roedd y Sioe wedi dechrau ennill ei phlwy. Y mwyaf amlwg yw cefnogaeth yr ymwelwr. Bellach gellir gweld dros 240,000, gyda theuluoedd cyfan yn ymweld â’r Sioe.
Gwelwyd cynnydd eithriadol yn adran yr anifeiliaid. Yng Nghaerfyrddin, lleoliad y Sioe ym 1947, dim ond 26 fu’n cystadlu yn Adran y Cobiau Cymreig mewn llaw. Eleni mae’r ceisiadau yn 550.
Mae’r Gymdeithas wedi ehangu ei gorwelion ac wedi ymateb i ddatblygiadau newydd ym myd amaethyddiaeth Cymru. Y nod yw codi safonau magu stoc a hwsmoniaeth i’r radd flaenaf; bod yn gyfrwng gwarchod bridiau cenedlaethol Cymru, yn ogystal ag addysgu mewn gwyddoniaeth a thechnoleg – meysydd y mae ffermwyr yn dibynnu cymaint arnynt y dyddiau yma.
Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru dros y blynyddoedd, fel y lefain yn y blawd, wedi llwyddo i ddod â phobl Gogledd a De Cymru at ei gilydd a phontio’r gagendor rhwng pobl y wlad a’r dref gan godi delwedd ffermio.
Gellir rhagweld y bydd yn un o’r sioeau gorau erioed gan y bu’n flwyddyn dyfiadwy gyda thywydd mwy hwylus nag arfer i gael y cynhaeaf mewn pryd. Mwynhewch y Sioe.