WELSH COLUMN
PETH rhyfedd ydi rhagfarn.
Onibai fy mod i wedi digwydd cyfarfod ag Almaenwr ar rhyw gwrs flynyddoedd yn ôl, mae’n debyg y baswn i’n dal i gredu bod y rheiny’n genedl o bobol benolau yn siarad yn uchel a gyda thuedd anffodus ar wisgo trowsusau lledr, byr.
Fel mae’n digwydd, roedd Wilfried Solbach yn ddyn tawel, gwallt tywyll na fyddai wedi mentro gwasgu i mewn i lederhosen am unrhyw reswm yn y byd. Ac, o deithio trwy rannau o ogledd yr Almaen, mae’n amlwg nad fo ydi’r unig un.
Ond mae yna stereoteipiau dyfnach ac, waeth i fi gyfadde’ ddim fy mod i’n ysglyfaeth i nifer fawr ohonyn nhw. O ran yr Almaen, ro’n i’n disgwyl lle oedd yn cael ei redeg fel watsh, a honno’n tician yn ddychrynllyd o uchel a’i bysedd yn symud yn amlwg ac yn gadarn.
Mae yna drefn, ond ychydig yn wahanol i’r disgwyl. Mae yna daclusrwydd a glendid, ond nid yn affwysol felly.
A ninnau draw yma’n ffilmio rhaglen newydd ar gyfer cyfres arall o Dylan ar Daith, roedd ffilmio yng nghalon y brifddinas, Berlin, yn brofiad rhyfeddol o braf.
O ddilyn y stereoteip, mi fyddech chi wedi disgwyl i ni gael trafferth i adael car, heb sôn am osod y camera mewn llefydd amlwg wrth ochr senedd y Reichstag, neu’n union o flaen Porth Brandenburg rhwng rhesi o adeiladau llysgenadaethau gwledydd eraill.
Dim o’r fath beth. Plisman yn rhoi cyngor lle i barcio; ar bafin ynghanol priffordd. Pobol yn cerdded yn hamddenol o fewn decllath neu ddau i lysgenhadaeth yr Unol Daleithiau; yn Llundain mae gan eu hadeilad nhw fwy o amddiffynfeydd na dwsin Castell Caernarfon.
Ac felly yr oedd hi ar hyd a lled y ddinas. Dim swyddogion yn llamu allan o adeiladau i holi eich busnes; neb mewn iwnifform yn rhuthro draw i ddweud na chaen ni wneud hyn neu’r llall; parciau lle’r oedd hawl i gerdded tros y glaswellt.
Dim ond un rhan o’r Almaen oedd hyn, wrth gwrs, ond efallai mai dyna’r pwynt. Ers degawdau, canrifoedd falle, mae Berlin yn ddinas rydd, agored – fel y dywedodd un Gymraes ifanc sy’n byw yno, mae gan bobol ryddid, a pharch at ryddid pawb arall.
Mae’n rhaid fod yna ochr arall, a dyna’r pwynt unwaith eto. Does yr un genedl yn unffurf a phawb yn bihafio’r un peth. Y peryg bob amser ydi credu hynny.
Efo’r gofeb ynghanol Berlin i feirwon yr Holocost ac efo’r rhes o groesau ar lan afon Spree i ddangos lle buodd pobol farw wrth geisio croesi’r Llen Haearn, mae’r Almaen – a Berlin yn arbennig – yn dal i geisio dod i delerau â chyfnodau tywyll iawn.
Dyna pam fod pobol y wlad a’r ddinas siŵr o fod yn gwybod un peth yn dda... peth dychrynllyd ydi rhagfarn. Dylan Iorwerth yw Golygydd Gyfarwyddwr Golwg a Golwg 360