Dangos talent Cymru ar ei orau
FE FU Llandudno yn ferw gwyllt dros y penwythnos gyda Ffermwyr Ifanc o bob cwr o’r wlad yn heidio yno ar gyfer un o uchafbwyntiau calendr blynyddol y mudiad, sef yr Eisteddfod.
Camodd dros 800 o aelodau ar lwyfan Venue Cymru yn Llandudno i ganu, actio, llefaru a meimio. Fe welwyd talent y mudiad ar ei orau unwaith eto, gydag aelodau 11 mlwydd oed yn ymuno ag aelodau 26 mlwydd oed i gynnig adloniant pur i’r gynulleidfa fyw a ddaeth i wylio a chefnogi, ac i’r gwylwyr oedd yn eistedd adref yn mwynhau’r wledd ar y teledu.
Mae’r rhaglen ar gael i’w gwylio arlein nawr, ar wefan S4C, BBC iPlayer a llwyfannau eraill, ac fe fydd rhaglen o uchafbwyntiau’r diwrnod yn cael ei darlledu ar nos Fercher, Rhagfyr 20.
Llongyfarchiadau mawr i Ffederasiwn Eryri am gynnal Eisteddfod lwyddiannus, hefyd am ennill cystadleuaeth y côr gyda dros 100 o aelodau’n cynrychioli’r sir, ac i goroni’r cyfan am ennill y tlws am y ffederasiwn orau. Dyma’r tro cyntaf iddyn nhw ennill ers 2009, ac yn ffordd arbennig o roi hwb i’r holl aelodau, hyfforddwyr a’r cefnogwyr fu’n rhan o’r diwrnod.
Sir Forgannwg sy’n trefnu’r Eisteddfod y flwyddyn nesaf, y tro cyntaf erioed, a braf yw cael lleoliad gwahanol o flwyddyn i flwyddyn gan roi’r cyfle i fynd â thalent yr aelodau ar hyd a lled Cymru.
Os ydych chi’n chwilio am rywle i fynd ddydd Llun a dydd Mawrth nesaf fe fydd Llanelwedd yn croesawu pobl ar draws y Deyrnas Unedig a thu hwnt i weld cynnyrch y wlad ar ei orau yn y Ffair Aeaf. Mae’r ffair wedi hen ymsefydlu bellach fel un o’r atyniadau mwyaf poblogaidd yng nghalendr sioeau amaethyddol Prydain. Mae’r ffair yn ddeuddydd arbennig gyda digon o atyniadau ar gyfer y teulu cyfan. Mae’n gyfle i ddangos stoc o’r radd flaenaf, yn ffenestr siop i gynnyrch Cymreig safonol, a gyda’r holl stondinau amrywiol sydd yno, mae’n sicr yn ddechrau da i dymor y Nadolig, ac yn gyfle euraidd i brynu anrhegion gwahanol i’ch anwyliaid dros yr
Dymuniadau gorau i bawb sy’n mynd i Lanelwedd, boed i gystadlu neu i fwynhau. Os nad ydych chi’n gallu mynd, cofiwch fod modd gwylio’r cyfan ar S4C, yn fyw drwy’r dydd ac uchafbwyntiau gyda’r nos.
Mae Meinir Howells yn un o gyflwynwyr Ffermio, sydd ar S4C bob nos Lun am 9.30yh. Gallwch wylio’r penodau diweddaraf ar s4c.cymru a BBC iPlayer. Bydd S4C yn darlledu o faes Y Ffair Aeaf ar ddydd Llun a Mawrth, Tachwedd 27 a 28.