WELSH COLUMN
DAETH i ben deithio byd ydi hi am fod yn fy achos i; nid yn y modd mwya’ drastig, gobeithio, ond o ran gwneud rhaglenni teledu yn dilyn hanes Cymry mewn gwledydd pell.
Gan nad ydi hi’n ymddangos bod S4C eisio rhagor ohonyn nhw, mi fydd rhaid rhoi syniadau Dylan ar Daith ar y silff.
Y cyfan alla’ i ei wneud ydi diolch am y cyfle; y piti ydi fod cymaint o straeon ar ôl heb eu hadrodd a’r rheiny i gyd yn agor y drws ar rannau o hanes y Cymry nad yden ni’n aml yn eu nabod.
Mae’r straeon sydd heb eu dweud yn cynnwys un am deulu o delynorion o blant yn crwydro’r Unol Daleithiau (a dau wedyn yn dod yn wyddonwyr enwog). Roedd un o’r plant wedi marw mewn damwain ar afon Hudson.
Ac wedyn dyna’r dyn o Ynys Môn a newidiodd ffordd y byd o edrych ar ddiwylliant a llenyddiaeth, trwy ddangos bod yna fwy o gyfoeth yn llenyddiaeth is-gyfandir India na Rhufain a Groeg efo’i gilydd. O, ia, a dechrau dangos y cysylltiad rhwng India a’r iaith Gymraeg.
Roedd yna Gymry ynghlwm wrth y cynllun i achub caethweision yn America hefyd ac un Gymraes wedi curo ei gŵr ei hun mewn etholiad i senedd y wlad, heb sôn am yr anturiaethwr sy’n cael ei grybwyll yn yr un gwynt â rhai fel Davy Crockett ac a oedd yn fab i Gymraes.
Er mai straeon unigolion ydyn nhw, mae’r hanesion yma’n dangos llawer am ymwneud y Cymry â gweddill y byd, yn ein hatgoffa ni nad cenedl ddi-ffrwt, ddiantur yden ni.
Mae yna siopau mawr mewn sawl gwlad ar draws y byd sy’n arddel enwau Cymry.
Weithiau, mi fydd y straeon yn ffordd o gyrraedd at ddigwyddiadau llawer mwy. Y Cymro, er enghraifft, a oedd yn newyddiadurwr yn Rwsia adeg y Chwyldro Comiwnyddol union 100 mlynedd yn ôl ac a ddisgrifiodd yr hyn oedd yn digwydd, gan ddod yn fêts efo Lenin yr un pryd.
A Chymro Cymraeg arall, sydd mwya’r piti bron wedi cael ei anghofio ychydig flynyddoedd wedi’i farw, oedd un o’r archeolegwyr cynta’ i gymryd diddordeb gwirioneddol yn hanes aborijiniaid Awstralia.
Tra oedd o yno, tybed a wnaeth o gyfarfod â’r bardd coll o Lanafan – tipyn o athrylith a fu farw’n drasig ar ochr arall y byd heb gyflawni’i addewid?
Ac wrth iddyn nhw fynd i deithio, yn genhadon, yn wleidyddion, yn gynllunwyr rheilffyrdd a sefydlwyr gweithfeydd haearn a milwyr, maen nhw’n codi cwestiynau amdanon ninnau fel pobol ac am ein hagweddau ni.
Un o’n hanghenion mwya’ ni ydi deall ein hanes ein hunain ac i wneud hynny mae’n rhaid adrodd y straeon wrth ein gilydd.
Heb hynny, fydd heddiw chwaith ddim yn gwneud sens yn y diwedd. Dylan Iorwerth yw Golygydd Gyfarwyddwr Golwg a Golwg 360