Gwasanaethau gofal sylfaenol Cymraeg
YSGRIFENNWN fel ymarferwyr ym maes gofal iechyd gan ofyn am newid Safonau’r Gymraeg fel bod hawliau cyfreithadwy cadarn a chlir gan y cyhoedd i dderbyn gwasanaethau gofal sylfaenol yn Gymraeg.
Pryderwn yn fawr nad yw’r rheoliadau drafft yn sicrhau hawliau i’r Gymraeg wrth i’r cyhoedd ymwneud â gwasanaethau gofal sylfaenol y gwasanaeth iechyd.
Fel y gwyddoch, prif gyswllt y cyhoedd â’r gwasanaethau iechyd yw’r gwasanaethau hyn, felly mae’n allweddol bod cleifion yn cael siarad â’r gwasanaethau gofal sylfaenol ledled y wlad yn Gymraeg.
Credwn ei bod yn hanfodol nad yw darparwyr y gwasanaethau rheng flaen hyn yn cael eu heithrio o’r Safonau arfaethedig. Wedi’r cwbl, rydym yn sôn am hawliau rhai o’r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas, ar adegau yn eu bywydau pan fo cyfathrebu yn Gymraeg yn bwysig iawn i’w hiechyd ac o ran sicrhau’r driniaeth orau iddyn nhw.
Yn adroddiad “Fy Iaith, Fy Iechyd: Ymholiad i’r Gymraeg mewn Gofal Sylfaenol” yn ôl ym mis Mehefin 2014 roedd Comisiynydd y Gymraeg yn nodi’n glir ar ôl ymchwil drwyadl ei bod yn hanfodol sicrhau cysondeb o ran ymddygiad ieithyddol ar draws y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn ei gyfanrwydd. O ganlyniad, credwn fod rhaid i ddarparwyr gwasanaethau gofal sylfaenol fod yn ddarostyngedig i safonau’r Gymraeg o dan yr un fframwaith statudol â’r byrddau
iechyd a sefydliadau iechyd eraill.
Rhaid cymryd camau penodol i sicrhau bod deddfwriaeth ac is-ddeddfwriaeth sydd yn yr arfaeth yn adlewyrchu’r angen i hybu’r Gymraeg mewn gwasanaethau gofal sylfaenol. Mae digon o waith ymchwil rhyngwladol yn ogystal yn cefnogi’r galwadau hyn.
Erfyniwn arnoch felly i newid y rheoliadau fel bod gan bobl ar lawr gwlad hawliau cadarn yn y meysydd hollbwysig hyn. Dr Emyr Humphreys Ymgynghorydd Gwynegonoleg; Gudrun Jones Therapydd Celf – Gofal Oncoleg a Lliniarol; Dr Elin Walker Jones Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol a 29 arall (gweler WalesOnline am restr lawn o llofnodwyr)