Western Mail

WELSH COLUMN

- DYLAN IORWERTH

MAE’N amlwg bellach mai Rhagfyr 1 ydi’r dyddiad mwya’ poblogaidd o ran gosod coeden Nadolig yn ei lle, hongian y tinsel a chynnau’r goleuadau. Sy’n golygu bod tair wythnos a hanner dda i’w mwyhnhau nhw cyn y Nadolig.

Wedyn, eu gadael yn eu lle am ychydig mwy na’r 12 diwrnod gorfodol ar ôl y Nadolig a, dyna ni, dim ond ychydig tros naw mis go lew cyn eu tynnu nhw allan eto.

Mae dymuniad yr hen Wizzard bron â dod yn wir... “I wish it could be Christmas every day...”

Wrth gwrs, mae cwmnïau masnachol yn gwneud eu gorau i gyrraedd y nod. Tua Tachwedd 2 y mae eu Nadolig nhw yn dechrau o ddifri’, ar ôl i geriach Calan Gaeaf gael eu clirio oddi ar y silffoedd. Ac mae’r sêls Nadolig yn mynd ers rhyw fis go dda.

Trefn y flwyddyn ffermio a byd natur oedd yn arfer penderfynu ar natur ein gwyliau ni; bellach, yr hyn sy’n rheoli ydi’r angen i wneud pres.

Os oes bwlch yn y calendr, mae’n rhaid meddwl am syniad newydd a hyd yn oed drio gwneud mwy o’r hyn sydd yna... dydd Gwener y Gwario Gwirion.

Mae hwnnw eisoes wedi ymestyn i fod yn benwythnos cyfan ac mae’n prysur fynd yn un â’r holl gynigion arbennig eraill sy’n troi “tymor y Nadolig” yn dymor go iawn.

Nid gŵyl fel y cyfryw sy’n dod wedyn ond y Penmaenmaw­r – yr hangofyr – a’r siopau’n gweld cyfle i werthu pethau iach, yn fwyd a gweithgare­ddau.

Mae hynny’n cadw pethau i fynd tan San Ffolant (dydi grym masnachol dydd Santes Dwynwen yn agos at fod yn ddigon).

Ac, wedyn, wrth gwrs, y Pasg sy’n llawer llai o beth nag oedd o. Wedi’r cyfan, tydi wy siocled ddim llawer o beth i bobol a phlant sy’n cael siocled bob dydd o’r flwyddyn.

Gwell felly canolbwynt­io ar ddathliada­u personol – o “gawodydd” babi (i ddathlu geni ymlaen llaw) a thair neu bedair noson cywen a cheiliog (i ddathlu priodi ymlaen llaw).

Crefft y gwerthwyr ydi gwneud i ni feddwl bod dathlu’r digwyddiad­au yma i gyd yn angenrheid­iol; na fyddwn ni’n gwneud pethau’n iawn fel arall.

Ac wedyn, ar ôl cael ateb llwyddiann­us, ei ddyblygu a’i ymestyn.

Cyn hir, mi fyddwn ni’n codi ein coed Nadolig ym mis Hydref ac yn hongian lanterni pompionen a wyau Pasg ochr yn ochr â’r angel.

Yn y diwedd mae’r cyfan yn mynd yn ddiystyr ac, o ganlyniad, yn colli eu rhin a’u rhamant.

Syniad da fyddai Gŵyl Dim Byd, dim yn digwydd, neb yn rhoi na derbyn nac yn bwyta nac yfed dim byd sbesial.

Ond mi fyddai rhywrai’n llwyddo i wneud arian hyd yn oed o syniad felly. Dylan Iorwerth yw Golygydd Gyfarwyddw­r Golwg a Golwg 360

 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom