Western Mail

WELSH COLUMN

- DYLAN IORWERTH

O’R diwedd, dw i wedi datrys problem addunedau Blwyddyn Newydd. Na, nid osgoi eu gwneud nhw o gwbl ond gwneud rhai y bydd yn beth da eu torri.

Achos dw i’n cymryd fy mod i’n debyg i 99% ohonoch chithau, yn gorffen blwyddyn yn gor-wneud ac yn dechrau un newydd trwy fwriadu’n dda.

Ac mae’n debyg mai’r addunedau mwya’ poblogaidd ydi’r rhai i fwyta’n iach, i golli pwysau a gwneud llawer mwy o ymarfer corff. Mor boblogaidd, nes fod yr un bobol yn gorfod gwneud yr un addewidion flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Gan fod y rhan fwya’ ohonon ni’n sicr o dorri pob adduned, yr ateb ydi gweithio efo hynny yn hytrach nag yn ei erbyn. Felly, eleni, dw i’n gwneud adduned i fwyta gormod ac yfed mwy... gan edrych ymlaen at ei thorri.

Y llynedd, mae’n siŵr y byddai fy adduned go iawn i wedi cynnwys addewid i fwyta llai o fraster, gan ddilyn cyngor arbenigwyr yn ystod y blynyddoed­d diwetha’. Erbyn heddiw, i rai gwyddonwyr, siwgr ydi’r gelyn penna’.

Doedd y busnes braster erioed wedi gwneud sens llwyr a finnau’n cofio gweld pob math o bobol denau erstalwm yn sglaffio cosynnau a thaenu menyn fel petaen nhw’n rhoi sment ar fricsen. Ac wedi clywed stori am hen bobol iach y gorffennol yn bwyta sleisen o gig gwyn mochyn trwy ei roi ar frechdan saim.

Heb fod yn wyddonydd na deietegydd, roedd hi’n ymddangos yn od ein bod wedi bod yn bwyta braster ers canrifoedd ond mai dim ond yn awr yr oedd hynny’n dechrau cael effaith. A be am yr Esgimos, yn byw ar fraster morfil?

Mae yna fwy nag un math o fraster, wrth gwrs, ac mae’n sicr fod a wnelo ffordd o fyw â’r mater hefyd – lle’r oedd ffermwyr yn arfer cerdded, maen nhw bellach ar cwad, a lle’r oedd pawb bron yn gwneud rhyw fath o waith corfforol, mae codi beiro’n dipyn o straen i lawer ohonon ni.

Ond, i fi, mae siwgr yn elyn mwy amlwg, yn enwedig y mathau sy’n dod wedi eu trin a’u prosesu.

Wedi’r cyfan, i’r rhan fwya’ o bobol, dim ond yn y ddwy ganrif ddiwetha’ y mae siwgr wedi dod yn rhan bwysig o’n bwyd.

Fyddai hi ddim syndod wedyn petai ein cyrff wedi methu ag addasu i dderbyn a defnyddio’r fath beth yn y ffordd orau. Ac mae’r epidemig pwysau fel petai’n cyd-daro efo cynnydd anferth mewn diodydd a bwydydd proses sy’n llwytho siwgr arnon ni.

Un o’r eironïau ydi fod siwgr wedi cael ei ddefnyddio i ddisodli braster. Tra oedden ni i gyd yn cadw ein haddunedau i fwyta bwydydd braster-isel, roedden ni’n stwffio ein cyrff gyda rhywbeth sydd, o bosib, yn fwy peryglus.

Ac eironi chwerw arall – mai masnach giaidd caethwasia­eth oedd calon y diwydiant siwgr sydd bellach yn gwneud drwg i ni. Dylan Iorwerth yw Golygydd Gyfarwyddw­r Golwg a Golwg 360

 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom