WELSH COLUMN
WNA’ i fyth anghofio’r olygfa: cornchwiglod yn troelli a phlymio a chodi yn un patrwm cymhleth o symud a sŵn. Wna’ i fyth anghofio, am mai dyna’r unig dro y gwelais i’r fath beth.
Yn ardal Cynwyd yr oedden ni, yn nyffryn Dyfrdwy, yn crwydro trwy gaeau oedd heb eu ffermio’n drwm, lle’r oedd glaswellt naturiol a chymysgedd o chwyn a blodau.
Wna’ i fyth anghofio un sŵn chwaith; galwad hiraethus y gylfinir wrth iddi grwydro tros weunydd a mawnogydd Cefn Du, y mynydd-fryn oedd yn codi yn union y tu cefn i ’nghartre’ yn Waunfawr.
Wna’ i fyth anghofio’r sŵn yna am fy mod wedi ei golli bellach. Dim ond unwaith ers hynny y gwelais i gylfinir ar ddarn o fynydd ac mae’r hiraeth wedi symud o’r alwad i fy meddwl i.
Dw i wedi dychmygu dau sŵn arall hefyd; dau aderyn na welais i erioed mohonyn nhw na’u clywed chwaith, er fod y ddau’n rhan o lên gwerin a chaneuon Cymru.
Yr eos ydi un, a’r straeon am gylchtylwyth-teg o nodau yn tynnu pobol i anghofio am bopeth arall; y llall ydi aderyn y bwn, sydd mae’n debyg i’w glywed eto mewn ambell i fan a’i lais bas yn diasbedain.
Mi ddaeth y golygfeydd a’r synau’n ôl wrth ddarllen erthygl bapur newydd yn galaru am yr holl adar sydd wedi eu colli yn ystod yr hanner canrif diwetha’ – ddim ymhell o hanner yr holl adar tir amaethyddol.
Doedd gan yr awdur ddim amheuaeth be oedd ar fai – ffermio dwys oedd wedi troi llawer o gefn gwlad, meddai, yn ddim ond concrid gwyrdd. Ac mi allai fod wedi sôn am bysgod ac afonydd hefyd a’r gweddillion gwrtaith a chemegau sy’n llifo i’r rheiny.
Rhan o’r broblem ydi fod ffermwyr dwys yn defnyddio pob math o gemegau i ladd pla ond, wrth wneud hynny, mae pob math o drychfilod eraill yn cael eu lladd a nhw ydi cynhaliaeth yr adar.
Y penwythnos diwetha’, roedd ffermwyr ifanc Cymru’n cystadlu ar y siarad cyhoeddus ac un o’r pynciau oedd y ddadl rhwng cynhyrchu bwyd a gofalu am yr amgylchedd. Yn enwedig o gofio Brexit a cynigion Llywodraeth Prydain i droi grantiau i gyfeiriad gofalu am olygfeydd, byd natur a thwristiaeth.
Fyddai hi ddim wedi talu i’r dadleuwyr ifanc fynnu bod angen y ddau, ond dyna ydi’r gwir. Un o gynhyrchion defnyddiol cefn gwlad ydi bwyd a chynhyrchu hwnnw sydd wedi patrymu ein hamgylchedd ni ers miloedd o flynyddoedd, weithiau er lles, weithiau er drwg.
Mae angen newid pwyslais amaethyddiaeth er mwyn cynhyrchu bwyd mewn ffyrdd gwell a rhagor o amrywiaeth o fwydydd. Mi fydd rhaid ystyried addasu genynnol – GM – a defnyddio hynny i hybu’r amgylchedd yn ogystal â chynhyrchu bwyd.
Mi fuodd ffarmio’n cynnal adar fel y cornchwiglod; mi all wneud hynny eto. Dylan Iorwerth yw Golygydd Gyfarwyddwr Golwg a Golwg 360