Western Mail

WELSH COLUMN

- MENNA ELFYN

MARTIN Luther King. Anodd credu i 50 mlynedd fynd heibio ers iddo gael ei ladd. A hynny am i’w eiriau barhau i ysbrydoli cenedlaeth­au ar draws y byd.

Eicon oedd i mi a llawer un arall yng nghyfnod di-drais ymgyrchu Cymdeithas yr Iaith wrth inni adrodd ei mantra i ymwrthod â thrais dwrn, trais tafod a thrais calon.

Wedyn roedd ganddo ffordd o ddweud a fyddai’n dal eich dychymyg fel ei eiriau ein bod ni i gyd yn garcharori­on “gobaith”. Parhaodd y “gobaith” hwnnw ar ei leferydd yn ystod ei fywyd a’i drosglwydd­o i eraill.

Un arall o’i ddamcaniae­thau oedd na ellid cael gwared ar dywyllwch gyda thywyllwch, ac mai goleuni oedd yr unig beth a allai wneud hynny. Geiriau doeth yn wir.

Tua’r un pryd 50 mlyedd yn ôl, y deuthum yn ymwybodol o sefyllfa apartheid yn Ne Affrica wrth ddarllen llythyr a anfonwyd i un o’r papurau trymion yn galw am ryddhau Nelson Mandela. A’r sawl arwyddodd y llythyr hwnnw oedd neb llai na Winnie Mandela ei hun.

Ymhen rhai blynyddoed­d cynyddodd y galw am ddileu apartheid gyda Winnie ei hun yn cael ei charcharu droeon a’i gwahanu oddi wrth ei phlant ifanc. Dioddefodd garchariad “solitari” nifer o weithiau hefyd a does rhyfedd iddi gael ei galw yn fam y genedl. Cofiaf yr argraff a wnaeth ei hunangofia­nt arna’ i – fel ymgyrchydd. Yn anffodus, daeth dyddiau tywyll i’w rhan hithau wrth i griw o bownsers iddi ymddwyn yn dreisiol ac yn sgil hynny, lladdwyd llanc ifanc gyda Winnie ynghlwm wrth yr hanes hwnnw. A methodd ag ymddiheuro am unrhyw gamwedd gan wneud i bobl siomi yn ddifrifol ynddi. Ac eto, hoffais y ffordd y gwnaeth ail wraig Mandela ddangos tosturi tuag ati ac atgoffa’r genedl o’r brwydrau a wynebodd fel mam ifanc.

Yn ein cyfnod ni pan ydym oll yn llawer rhy barod i ddosbarthu pobl fel rhai da neu rhag drwg, rhaid atgoffa ein hunain nad yw bywyd mor ddu a gwyn, maddeuwch y ddelwedd anffodus. Pobl gymhleth ydym oll, a dyna pam yr wyf wedi hen arddel y dywediad “Worship your heroes from afar, contact withers them”. Sylw da yw i’n hatgoffa ein bod ni i gyd yn llawn ffaeleddau ac yn brwydro weithiau yn galed, dro arall heb fod yn ddigon caled i ddewis ffordd daioni. Os nad yw’r tywyllwch yn ei guddio oddi wrthym wrth gwrs. A dyna pam mae crefyddau yn dal yn bwysig er mwyn rhoi inni ryw ffordd i ymgyrraedd at fod yn well pobl.

Fel merch y Mans, cofiaf ofyn i ’nhad beth oedd ystyr cael eich “achub”? A’i ateb doeth fel o hyd oedd bod yn rhaid cael eich achub drosodd a thro – yn wastadol.

Mae’r Athro Menna Elfyn yn Athro Barddoniae­th ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom