Gwneuthurwr seddau awyrennau Torfaen yn ffynnu
MAE Torfaen wedi hen arfer gyda menter ac arloesi. Unwaith wrth graidd y Chwyldro Diwydiannol, mae Torfaen yn yr oes fodern wedi arallgyfeirio ei heconomi trwy groesawu busnesau sy’n gweithredu ar draws amrywiol sectorau gan gynnwys cyfathrebu, gweithgynhyrchu, dosbarthu, TG, cludiant ac awyrennau ac mae’n ymroddedig i gefnogi busnesau arloesol a rhai sy’n seiliedig ar wybodaeth.
Yn gartref i Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon, mae Torfaen hefyd wedi gweld ehangu yn y sectorau twristiaeth a lletygarwch. Gall cysylltiadau teithio rhagorol ynghyd â seilwaith digidol soffistigedig sicrhau bod busnesau’n medru gweithredu ar lwyfan cenedlaethol a byd-eang. Mae Torfaen yn cynnig amrywiol leoliadau busnes ac yn ymfalchïo yn yr arbenigrwydd sydd i’w gael yn y gweithlu lleol, ynghyd â’u hymroddiad.
Mae Zodiac Seats UK (ZSUK) yn un o arweinwyr y diwydiant ar gyfer seddau premiwm a phwrpasol mewn awyrennau ac wedi bod ar Stad Ddiwydiannol Llantarnam yng Nghwmbrân er 2000.
Mae gan y cwmni, sy’n dylunio, ardystio a gwneud seddau arloesol ar gyfer awyrennau Dosbarth Cyntaf a Dosbarth Busnes ledled y byd, 4 o gyfleusterau ac mae’n cyflogi mwy na 1600 o weithwyr.
Ychwanegodd Sian Williams, Cyfarwyddwr AD “mae ein lleoliad yn Nhorfaen yn berffaith i ddenu gweithlu gyda sgiliau o Dde Cymru a thros y ffin”.
Mae ZSUK yn falch o fod wedi sefydlu ei hunan fel un o’r safleoedd gweithgynhyrchu mwyaf yn yr ardal a chyda mynediad uniongyrchol i goridor yr M4, mae’n safle delfrydol ar gyfer ein gweithrediadau peirianneg a logisteg.
Mae tîm Economi a Mentergarwch Torfaen yn helpu busnesau gyda symud i neu fuddsoddi yn Nhorfaen ac mae’n cynnig gwasanaeth am ddim yn cynnwys cymorth gyda chyllid, cynllunio ac eiddo trwodd i recriwtio a chael hyd i sgiliau yn lleol.