WELSH COLUMN
HEN amser digon pethma ydi dechrau mis Ebrill i fi. Nid am ei fod yn nodi bod blwyddyn arall bersonol wedi mynd heibio ond am fy mod i ar bigau’r drain.
Pythefnos cynta’r mis sydd waetha’ fel rheol ond mi aeth hi’n dair wythnos union eleni. Tair wythnos o bryderu na fyddai hi’n dod yn ôl. Dw i’n dweud “hi” ond mae’n debyg mai “fo” neu “nhw” ddylai hwnna fod mewn gwirionedd.
Felly, tan nos Sadwrn diwetha’, ro’n i wedi bod braidd yn sigledig. Hyd nes gwybod ei bod hi wedi cyrraedd, ro’n i’n anniddig, a rhyw deimlad bach annifyr rhywle tua gwaelod yr ymysgaroedd.
Ond, y noson honno, mi ddaeth y prawf. Gwan iawn oedd ei llais hi ac roedd yna drwch o goed rhyngon ni a hi ond, yn sicr, mi roedd hi yno. Mae’r gog yn ôl unwaith eto.
Yn y drydedd wythnos ym mis Ebrill y bydd hi’n cyrraedd y gweundiroedd uwchben Dyffryn Teifi i fenthyg nythod. Eleni, roedd hi’n ddiwedd yr wythnos cyn i ddeunod y ceiliogod seinio eto o’r rhesi coed ar ymyl y grug a’r brwyndir.
Ro’n i wedi bod yn gwrando ddwywaith neu dair cyn hynny ac wedi dechrau poeni o ddifri mai eleni oedd y flwyddyn. Y flwyddyn na fyddai’n dod.
Mae’n anodd esbonio cyfaredd yr aderyn digon disylw yma ond, rhywsut, mae’n cynrychioli llawer mwy na fo’i hun. Yn fwy na’r un aderyn arall, hyd yn oed y gwenoliaid neu weilch pysgod afonydd Dyfi a Glaslyn, mae’n cynrychioli symudiad y tymhorau.
Ei gân ydi un o’r rhesymau, wrth gwrs. Does yna ddim i’w gymharu â honno. Ac mae’n anodd cael cip arni hi – mi soniodd Shakespeare fod angen i frenin da fod fel y gog... yn cael ei chlywed ond byth braidd yn cael ei gweld.
Rheswm arall ydi’r reddf ryfeddol – neu beth bynnag ydi o – sy’n gallu mynd ag aderyn ifanc filoedd o filltiroedd i Affrica ac wedyn yn ôl i un man penodol yng Nghymru.
A dyna’r “hi” a’r “fo”. Yr aderyn hwn. Y gog hon, er mai am y ceiliog y byddwn ni’n sôn fel rheol. Mae’r un ddeuoliaeth am sawl aderyn, wrth gwrs, ond rhywsut mae’r symud rhwng geiriau’r gwryw a’r fenyw yn crynhoi ei henigma hi.
Mae’r un ddeuoliaeth yn ei hymddygiad hi hefyd. Nid aderyn “neis” ydi’r gog, er gwaetha’ melyster y nodau. Mae’n manteisio ar adar llai ac yn eu twyllo mewn ffordd sy’n ymddangos yn greulon i ni. Ond, eto, mae hi’n un o’n ffefrynnau.
A dyna pam y bydda’ i ar binnau fis Ebrill nesa’ eto. Mae’r gog yn arwydd fod bywyd yn ei holl gymhlethdod yn mynd yn ei flaen.
■ Dylan Iorwerth yw Golygydd Gyfarwyddwr Golwg a Golwg 360