Western Mail

WELSH COLUMN

- DYLAN IORWERTH

TRUMP. Mae’n debyg fod yna ystyr ychydig yn amharchus i’r gair yna yn Saesneg. Ond mae’n fy atgoffa fi o rywbeth arall, gwahanol.

Mae gen i frith go’ o ddarllen llyfr i fechgyn am anturiaeth­wyr yn Affrica. Roedd hynny yn fy nghyfnod rhamantaid­d cyn i fi weld sens, pan o’n i’n darllen llyfrau fel St George for England ac yn cefnogi Lloegr yn Wyrld Cyp 1966.

Beth bynnag, y stori fawr oedd fod yna eliffant wedi rhedeg yn wyllt gan greu hafog hyd y lle. Mae’n debyg fod hynny’n digwydd weithiau yn achos eliffantod. A dyna sy’n dod i’r llygad wrth feddwl am Donald Trump.

Ac i’r glust. Achos mi fyddai’r eliffant gwyllt wedi gwneud sŵn dychrynlly­d wrth falu ei ffordd trwy’r jyngl gan sgathru coed ac adeiladau i bob cyfeiriad. Mi fyddai’r sŵn yna yn debyg iawn i ail enw Arlywydd yr Unol Daleithiau.

Pe bai cwmni Disney yn ail-wneud y cartŵn o’r llyfr arall hwnnw i blant, The Jungle Book, mi allen nhw’n hawdd gynnwys eliffant ychwanegol. Mi fyddai’r arlunwyr yn cael modd i fyw wrth greu eliffant afrosgo efo twlpyn o rywbeth ar ei ben sy’n edrych fel carthion mul a fu’n bwyta india corn.

Y diffiniad swyddogol o eliffant gwyllt – rogue elephant ydi’r term Saesneg – ydi un sy’n gwahanu ei hun oddi wrth weddill y llwyth ac yn gweithredu ar ei ben ei hun. A’r gweithredu hwnnw, fel rheol, ydi sathru ar gnydau ac ambell berson hefyd.

Rŵan, mae gan Donald Trump ei lwyth ei hun, ond mae wedi gwahanu oddi wrth y gweddill ac mae i’w weld yn rhuthro i bob cyfeiriad heb gymryd sylw o neb na dim sydd yn y ffordd. Does neb yn gwybod i ba gyfeiriad y bydd yn mynd nesa’ ac mae’n ymddangos nad ydi yntau chwaith.

Mae ymddygiad o’r fath yn creu problemau ym myd yr eliffantod; mae’n creu problemau hefyd ym maes perthnasau rhyngwlado­l a thrafodaet­hau heddwch a masnach. Nid yn unig fod ei wrthwynebw­yr yn ansicr o’i gamau nesa’; does gan ei ffrindiau ddim cliw chwaith.

Mi oedd yna achos enwog o eliffant gwyllt yng Nghoedwig Aberdâr... na, nid yn y Cymoedd, ond yn y rhan o’r byd oedd yn goloni Brydeinig o’r enw Dwyrain Affrica. Kenya ydi’r wlad erbyn hyn.

Roedd yr eliffant hwnnw’n un cyfrwys a dyna y mae llawer o bobol yn amau sydd wrth wraidd ymddygiad Donald Trump hefyd... fod yna ryw fath o gynllun, neu gynllwyn, y tu cefn i’r gwiriondeb ar yr wyneb.

Petai hynny’n wir, mi fyddai’n beirniadu Rwsia, er enghraifft, er mwyn ceisio cuddio’r ffaith ei fod yn agos iawn atyn nhw, a nhw’n agosach fyth ato yntau.

Ond dydi anifeiliai­d y jyngl ddim yn arfer efo eirth.

■ Dylan Iorwerth yw Golygydd Gyfarwyddw­r Golwg a Golwg 360

 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom