Mae Mishan yn gwybod ei fod e wedi gwneud y dewis cywir
MAE penderfynu p’un ai i fynd i’r brifysgol neu beidio, heb sôn am beth i’w astudio, yn un o’r penderfyniadau mwyaf y bydd rhaid i ti ei wneud.
Gyda diwrnod canlyniadau Lefel A ar y gweill, bydd miloedd o bobl ifanc a’u rhieni yn canolbwyntio ar wneud y penderfyniad hwnnw.
I Mishan Wickremasinghe, 22, Llywydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol De Cymru, roedd y penderfyniad i fynd i’r brifysgol yn un da iawn.
“Dw i yn fy mhedwaredd flwyddyn ac yn astudio ar gyfer MBA, a dw i’n dwlu arno” meddai Mishan.
“Dechreuais gyda’r cwrs Rheoli Busnes, ond yn yr ail flwyddyn roeddwn i eisiau newid i astudio Marchnata. Roedd hi’n broses hawdd, ac roedd y Brifysgol wir wedi fy helpu gyda’r newid.
“Dewisais farchnata oherwydd ei fod yn bwnc cyffrous – fe ganolbwyntion ni ar greu cynnwys, cysylltiadau cyhoeddus, brandio – a dyma’r hyn dwi’n ymddiddori ynddo.”
Yn union fel y rhan fwyaf o gyrsiau PDC, mae’r radd Marchnata yn cydweithio â nifer o fusnesau allanol i ddatblygu myfyrwyr.
“Mae’r Brifysgol yn hoff o fanteisio ar brosiectau byw. Maen nhw’n trefnu bod cwmnïau yn ymweld â myfyrwyr a gofyn am ein hadborth. Roedd hi’n gyflwyniad gwych i’r byd gwaith, yr hyn dylen ni ei ddisgwyl, a sut allen ni gyfrannu.”
Er hynny, fe wynebodd Mishan rhai anawsterau wrth iddo addasu i fod yn fyfyriwr.
“Pan ddechreuais yn PDC, des i ar draws ychydig o heriau, ond ddeliais i ddim â nhw ar fy mhen fy hun”
“Nid oedd fy sgiliau ysgrifennu traethawd yn addawol iawn. Roedd angen cymorth arna i. Gofynnais i Wasanaethau Llyfrgell y Brifysgol i fy helpu. Es i i weithdai er mwyn gwella fy sgiliau ysgrifennu, a dysgu sut i gyfeirnodi er mwyn gwella safon fy ngwaith.”
Ond dim gwaith, gwaith, gwaith oedd y cyfan.
“Yn ystod fy nghyfnod yn PDC, ymunais â chlwb pêl-droed a oedd yn cynnwys ychydig o ffrindiau a wnes i gwrdd â nhw wrth astudio fy nghwrs. Penderfynon ni i gystadlu mewn twrnamaint,” meddai Mishan.
“Er y collon ni, roedd hi’n llawer o hwyl ac yn gyfle gwych i rwydweithio gyda phobl o bob cornel o’r byd a oedd wedi dod i’r Brifysgol yma.”
Mae Mishan yn un o chwech o fyfyrwyr a graddedigion PDC sy’n creu vlogs ynglyˆ n â bywyd myfyriwr. Cer i decymru.ac.uk/clirio am fanylion. Mae pob un o’r chwech wedi cymryd rhan yn ymgyrch hysbysebu Clirio PDC.
■ hyd i le. Bydd dy gymwysterau yn cael eu gwirio i weld a ydyn nhw’n addas ar gyfer y cwrs rwyt ti’n gwneud cais amdano. Bydd Diwrnodau Agored Clirio yn cael eu cynnal ddydd Sadwrn, 18 Awst a Dydd Iau, 23 Awst. Dyma gyfle i drafod dy opsiynau, gweld y campws a chwrdd â myfyrwyr presennol. Mae lleoedd ar gael ar ystod eang o gyrsiau. Chwilia ar-lein ar decymru.ac.uk/clirio a ffonio’r llinell gymorth Clirio.