WELSH COLUMN
MAE’N gen i gyfaddefiad ofnadwy i’w wneud am un o’m ffaeleddau y flwyddyn hon. Opera sebon go anarferol. Na, nid dilyn “Pobol y Cwm” yn ddyddiol na’r rhai Saesneg ychwaith.
Gwylio yr ydw i opera sebon Americanaidd. Byd realiti Trumpdod. Gyda syndod a rhyfeddod. Opera sebon sy’n llawn anti-bendod yw. Dyna’r gair yn ein tŷ ni gyda llaw, ers i fachgen ysgol gywiro Cymraeg un o ’mhlant gan fynnu nad annibendod oedd y gair ond anti-bendod! A falle ei fod yn well gair o feddwl am yr hyn sy’n digwydd yn America ar hyn o bryd.
Ac mae’r rhifyn diweddara o’r opera sebon yn hynod gyffrous. Michael Cohen ei drwsiwr, os dyna yw “fixer”, yn egluro’r camweddau o dalu am dawelwch dwy o’i gyn-gariadon ar drothwy yr etholiad yn 2016 gan ddweud iddo gael ei gyfarwyddo gan ymgeisydd am yr arlywyddiaeth.
Yna, Paul Manafort, cadeirydd ei ymgyrch am rai misoedd yn euog ar wyth cyhuddiad o guddio miliynau o bunnoedd o arian a wnaed ar gefn gweithio i oligarchiaid. Rhyfedd ontife o gofio’r sylw hwnnw “drain the swamp!” A “lock her up.”
Ond mae fy opera sebon hefyd yn gallu bod yn llethol. Sut yn y byd y llwyddir i ddarlledu oriau yn trafod materion yn ymwneud â’r cyfryw gymeriadau? Mae hynny ynddo’i hun yn gamp. A thrwy hyn oll tîm Mueller yn gweithio’n dawel yn y dirgel.
Cofiaf fod yn Efrog Newydd yn ystod tystiolaeth Bill Clinton v Monica Lewinsky a threulio oriau lawer yn gwneud dim ond craffu ar ei ymatebion ar deledu. Ond mor ddof oedd hynny o’i gymharu â Thrumpdod.
Wrth gwrs, mae’n drist hefyd fy mod yn gweld un o’r gwledydd yr wyf wedi ei hedmygu drwy fy oes yn llawn croesdyniadau ynghyd â dicter sy’n eithafol.
Siom hefyd o weld gwerthoedd democrataidd mewn perygl gan un sydd yn ôl o’i feirniaid “yn feddw ar rym”.
Hwyrach y daw “pardwn” i’r ddau a enwais. Dibynna ar eu teyrngarwch. Pwy a ŵyr. Ond a fu dyn mwy garw ei eirfa erioed? Mae pawb sy’n ei feirniadu yn “crazed”, yn “dog” neu’n “disgrace”. Neu’n gasgliad o bethau fel y wraig a ddywedodd amdani: “She’s a dog with the face of a pig.” Neis ontife! Doniol o drist hefyd na all fynegi ei hun a’i sylwadau yn llawn “antibendod”.
Ond dim opera sebon yr wythnos nesa’ imi achos fydda i’n hedfan i Washington DC i lansio’r cyfieithiad Saesneg Absolute Optimist Eluned Phillips yn yr Ŵyl Fawr yno. Ac yn cadw’n glir o’r obsesiwn am Drumpdod. Er fydda i’n siwr o gerdded heibio i’r Tŷ Gwyn a dyfalu am y dyn rhyfedd sydd yno’n casglu o’i gwmpas eraill sy’n optimistiaid absoliwt.
■ Mae’r Athro Menna Elfyn yn Athro Barddoniaeth ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant