WELSH COLUMN
TRAFODAETH am fysys wnaeth i fi feddwl am neuadd enwoca’ Cymru. Y bysys yn ardal Caernarfon, y neuadd ar benrhyn Llŷn.
Neuadd Goffa Mynytho ydi honno, wrth gwrs; neuadd digon tebyg i ddegau o neuaddau eraill ar hyd a lled y wlad, heblaw am yr englyn ar ei thalcen.
“Cydernes yw’r coed arni,” meddai R Williams Parry wrth ddisgrifio’r ymdrech a gododd y neuadd. “Cyd-ddyheu a’i cododd hi,” meddai wedyn. Ac mi fyddai’n dda gallu dweud yr un peth am fysys.
Ardal Caernarfon ydi’r ddiweddara’ i ddiodde’ am fod cwmni bysys wedi methu a pheryg i’r gwasanaeth ddod i ben. Un ateb, meddai rhai pobol leol, ydi rhoi’r cyfrifoldeb yn ôl i’r cyngor sir.
Awgrym arall, gan yr Aelod Cynulliad lleol, Sian Gwenllian, ydi gwladoli’r holl wasanaethau bysys yng Nghymru a hynny er mwyn sicrhau bod gwasanaethau ar gael yng nghefn gwlad lle nad ydi’r drefn fasnachol yn gweithio.
Ond efallai fod Neuadd Goffa Mynytho yn cynnig dewis arall, gan mai pobol leol a ddaeth at ei gilydd i’w chodi. A does dim rhaid edrych ymhell yn Llŷn i weld enghreifftiau tebyg ym myd busnes, lle mae’r gymuned wedi cydweithio.
Y cefndir ydi’r argyfwng sydd yna o ran gwasanaethau cefn gwlad. Nid bysys yn unig, ond siopau a thafarndai, banciau a gofal hefyd. Y cyfan yn diodde’ oherwydd y wasgfa ariannol a newidiadau mewn ffordd o fyw. Ar ben hynny, mae dwylo llywodraeth leol wedi’u clymu i raddau helaeth, gan doriadau a gan reoli o’r canol. Yn dawel bach, mae llawer o’n gwasanaethau cyhoeddus ni wedi cael eu gwthio hyd-braich a’u preifateiddio.
Yn aml iawn, dydi hynny ddim yn ateb da i ardaloedd gwledig a does gan lywodraeth leol bellach ddim o’r arian na’r grym i godi’r slac. Efallai mai yn esiampl Neuadd Goffa Mynytho y mae’r ateb.
Mae yna nifer o esiamplau llwyddiannus o bobol leol yn creu cwmnïau cymunedol a chwmnïau cydweithredol i gynnal siopau, tafarndai a chaffis. Tybed a oes modd i’r un peth ddigwydd efo gwasanaethau cyhoeddus hefyd?
Canolfannau hamdden, trafnidiaeth gyhoeddus, gwasanaethau gofal yn y cartre’, llyfrgelloedd... mae yna restr hir o wasanaethau cyhoeddus sy’n cael eu cynnig yn aml gan gwmnïau masnachol neu elusennau neu grwpiau gwirfoddol.
Efo trefn, anogaeth a chefnogaeth wrth gystadlu am waith o’r fath, tybed a fedrai cwmnïau cydweithredol lenwi’r bwlch – nid gwaith gwirfoddol ond cwmnïau busnes di-elw sydd yn nwylo pobol leol. Os ydi democratiaeth llywodraeth leol wedi’i chwalu i raddau helaeth, efallai y gallwn ni ail-adeiladu o’r gwaelod.
Fyddai hi ddim yn hawdd – dydi cydweithredu fyth yn syml – ond mae esiampl gwledydd eraill, gan gynnwys rhai tebyg i Gymru fel Gwlad y Basg, yn dangos beth sy’n bosib.
Efallai ei bod hi’n bryd Mythyneiddio ein gwasanaethau gwledig.
■ Dylan Iorwerth yw Golygydd Gyfarwyddwr Golwg a Golwg 360